[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gwlad Groeg

Oddi ar Wicipedia
Gwlad Groeg
Ελληνική Δημοκρατία
(Ellinikí Dimokratía)
ArwyddairRhyddid neu farwolaeth Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGroegiaid Edit this on Wikidata
PrifddinasAthen Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,482,487 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemEmyn Rhyddid Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKyriakos Mitsotakis Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Groeg, Groeg y Werin, Groeg Modern Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Y Cenhedloedd Unedig, De Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd131,957 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlbania, Bwlgaria, Gogledd Macedonia, Twrci Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.5°N 23°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Helenos Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKaterina Sakellaropoulou Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKyriakos Mitsotakis Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$214,874 million, $219,066 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith18.5 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.3 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.887 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gogledd Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.

Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.

Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Saif Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop, ar ran ddeheuol Penrhyn y Balcanau a'r ynysoedd o'i amgylch ym Môr y Canoldir. Dim ond darn cul o dir sy'n cysylltu rhan ddeheuol y penrhyn, y Peloponnesos, a'r tir mawr. Yn y gogledd, mae Groeg yn ffinio ar Bwlgaria, Weriniaeth Macedonia ac Albania, ac yn y dwyrain ar Twrci. Mae rhwng 1,400 a 2,000 o ynysoedd yng Ngwlad Groeg, yn dibynnu sut y diffinnir ynys, ond dim ond ar 227 ohonynt mae poblogaeth barhaol, a dim ond ar 78 o'r rhain mae mwy na 100 o drigolion. Ymhlith y rhain mae Creta, Euboea, Lesbos, Chios, Rhodos, Kerkyra, y Dodecanese a'r Cyclades.

Gwlad fynyddig yw Groeg, gyda tua 80% o'i harwynebedd yn fynyddig. Ynghanol y penrhyn, mae mynyddoedd y Pindus yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac yn codi i 2637 medr o uchder. Copa uchaf Groeg yw Mynydd Olympus, 2919 medr o uchder. Ar y ffin rhwng Groeg a Bwlgaria mae Mynyddoedd Rhodope.

Ar lannau'r Môr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y Gwareiddiad Minoaidd ar ynys Creta, gyda Knossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y Gwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.

Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y polis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i Asia Leiaf a de yr Eidal (Magna Graecia). Ymladdodd Athen a Sparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiad Ymerodraeth Persia yn y 5 CC. Yn ddiweddarach, ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan Thebai.

Daeth Macedonia yn feistr ar y ddinas-wladwriaethau Groegaidd gan Philip II, brenin Macedon, a than ei fab ef, Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y Cyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn 146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.

Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr Ymerodraeth Fysantaidd, gyda Chaergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Otomanaidd hyd at Ryfel Annibyniaeth Groeg (1821–1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.

Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbyn Twrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin yr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Rhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan junta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr Ewro yn 2001.

Demograffiaeth

[golygu | golygu cod]
Poblogaeth Groeg o 1961 hyd 2003

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth Groeg yn 10,964,020. Yn Ionawr 2008, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn 11,240,000. Yn 2005. roedd y boblogaeth yn cynyddu o 0.19% y flwyddyn. Roedd disgwyliad bywyd yn 76.59 mlynedd i ddynion a 81.76 mlynedd i ferched.

O ran crefydd, mae tua 98% yn perthyn i Eglwys Uniongred y Dwyrain, gyda 1.3% yn ddilynwyr Islam.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel Twrci a Bwlgaria, gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis Asia Leiaf, Bwlgaria, Albania a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.

Dinasoedd mwyaf Groeg yw Athen, Thessaloniki, Piraeus a Patras.

Rhaniadau Gweinyddol

[golygu | golygu cod]

Rhennir Gwlad Groeg yn dair ar ddeg o raniadau a elwir yn "peripheriau". Rhennir y rhain yn 54 o nomau.

Map Rhif Peripheri Prifddinas Arwynebedd Poblogaeth
1 Attica Athen 3,808 km² 3,761,810
2 Canolbarth Groeg Lamia 15,549 km² 605,329
3 Canolbarth Macedonia Thessaloniki 18,811 km² 1,871,952
4 Creta Heraklion 8,259 km² 601,131
5 Dwyrain Macedonia a Thrace Kavála 14,157 km² 611,067
6 Epirus Ioannina 9,203 km² 353,820
7 Ynysoedd Ionia Corfu 2,307 km² 212,984
8 Gogledd Aegea Mytilene 3,836 km² 206,121
9 Peloponnesos Kalamata 15,490 km² 638,942
10 De Aegea Ermoupoli 5,286 km² 302,686
11 Thessalia Lárisa 14.037 km² 753,888
12 Gorllewin Groeg Patras 11,350 km² 740,506
13 Gorllewin Macedonia Kozani 9,451 km² 301,522
- Mynydd Athos (Ymreolaethol) Karyes 390 km² 2,262

Diwylliant Groeg

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato