[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gwlad Belg

Oddi ar Wicipedia
Gwlad Belg
Koninkrijk België (Iseldireg)
Royaume de Belgique (Ffrangeg)
Königreich Belgien (Almaeneg)
ArwyddairEendracht maakt macht Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, talaith ffederal, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBelgae, Gallia Belgica Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,584,008 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 4 Hydref 1830 Edit this on Wikidata
Anthemla Brabançonne Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexander De Croo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
NawddsantJoseff Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Cynghreiriaid, yr Undeb Ewropeaidd, Ewrop, Benelux, y Gwledydd Isel, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gorllewin Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd30,688 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Gogledd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydayr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, Yr Iseldiroedd, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.6411°N 4.6681°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ffederal Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Ffederal Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin y Belgiaid Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethPhilippe, brenin Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad Belg Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexander De Croo Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$599,880 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5.55 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.75 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.937 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Teyrnas Gwlad Belg neu Gwlad Belg (Iseldireg: België; Ffrangeg: Belgique; Almaeneg: Belgien). Mae hi'n ffinio â'r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc a Môr y Gogledd.

Mae'r wlad yn fan cyfarfod rhwng y diwylliant Tiwtonaidd a'r diwylliant Ffrengig. Siaredir Iseldireg yng ngogledd y wlad, Ffrangeg yn y de, ac Almaeneg mewn rhannau o'r de-ddwyrain. Ar adegau, mae cryn dyndra wedi datblygu rhwng y ddwy brif garfan ieithyddol. Ceisiwyd delio a'r sefyllfa yma trwy sefydlu rhanbarthau ac ardaloedd ieithyddol o fewn gwladwriaeth ffederal Gwlad Belg.

Rhoddir yr enw "Talwrn Ewrop" ar Wlad Belg am fod nifer o frwydrau pwysig yn hanes Ewrop wedi eu hymladd yno.[1]

Rhanbarthau a thaleithiau

[golygu | golygu cod]

Rhennir y wlad yn dair rhanbarth, Rhanbarth Fflandrys, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas. Mae Fflandrys a Walonia yn cynnwys pum talaith yr un, tra nad yw Rhanbarth y Brifddinas yn rhan o'r system daleithiol.

Fflandrys

[golygu | golygu cod]

Walonia

[golygu | golygu cod]

Ardaloedd ieithyddol

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr ardaloedd ieithyddol (Iseldireg: taalgebieden, Ffrangeg: régions linguistiques) yn 1963, a daethant yn rhan o'r Cyfansoddiad yn 1970. Ceir pedair o'r rhain:

  • ardal ieithyddol yr Iseldireg
  • ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel
  • ardal ieithyddol Ffrangeg
  • ardal ieithyddol Almaeneg

Dynodir hefyd dair cymuned o fewn Gwlad Belg; mae'r rhain yn cyfeirio at y bobl ac nid ydynt yn raniadau daearyddol:

  • y Gymuned Iseldireg ei hiaith (Vlaamse Gemeenschap)
  • y Gymuned Ffrangeg ei hiaith (Communauté Française)
  • y Gymuned Almaeneg ei hiaith (Deutschsprachige Gemeinschaft)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 57.
Chwiliwch am Gwlad Belg
yn Wiciadur.