[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Pencarnisiog

Oddi ar Wicipedia
Pencarnisiog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH350736 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfaelog, Ynys Môn, yw Pencarnisiog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd: Pencaernisiog). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys ar yr A4080 tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfaelog a thua 8 filltir i'r gorllewin o dref Llangefni.

Ceir dwy ffordd o sillafu enw'r pentref. Yn yr Oesoedd Canol roedd treflan o'r enw "Conysiog" yno ("Tir Conws"). Tyfodd pentref bychan a galwyd y lle yn "Penconisiog". Tybid fod yr enw yn cynnwys y gair caer ac felly cafwyd yr enw "Pencaernisiog".[3]

Yn ymyl y pentref ceir siambr gladdu neolithig Tŷ Newydd.

Lleolir Ysgol Pencarnisiog yn y pentref, ysgol gynradd sydd yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Melville Richards, "Enwau lleoedd", Atlas Môn (Llangefni, 1972)