[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Llanfair-yn-Neubwll

Oddi ar Wicipedia
Llanfair-yn-Neubwll
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,733 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.260322°N 4.532344°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000022 Edit this on Wikidata
Cod OSSH3118576694 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfair-yn-Neubwll.[1] Saif y pentref i'r gogledd o Faes Awyr y Fali ac i'r dwyrain o'r culfor rhwng Ynys Môn ac Ynys Cybi.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Caergeiliog a Llanfihangel-yn-Nhywyn. Ceir nifer o lynnoedd yn yr ardal, mae Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a rhan o Lyn Dinam yn ffurfio gwarchodfa adar Gwlyptiroedd y Fali, sy'n eiddo i'r RSPB.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,688. 45.6% o'r rhain oedd yn medru Cymraeg, y ganran isaf ymhlith cymunedau Ynys Môn; mae hyn oherwydd y nifer fawr o bobl sy'n gysylltiedig â'r maes awyr a'u teuluoedd. Erbyn 2011 roedd wedi cynyddu i 1,874.

Llyn Dinam a Llyn Penrhyn yw'r ddau "bwll" (llyn) y mae'r enw Deubwll yn cyfeirio atynt. Deubwll oedd enw'r 'dref' wasgaredig ganoloesol a chafwyd yr enw 'Llanfair-yn-Neubwll' i wahaniaethu rhwng yr eglwys a'r plwyf a lleodd eraill gydag eglwys (llan) a gysegrwyd i Fair. Felly hefyd, er y gwelir enghreifftiau o'r ffurf 'Llanfair-yn-neubwll' weithiau, 'Llanfair-yn-Neubwll' sy'n gywir am fod Deubwll yn enw lle penodol.[2]

Hanes a hynafiaethau

[golygu | golygu cod]

Pan adeiladwyd y maes awyr yn 1943, gafwyd hyd i nifer fawr o arfau a chelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach. Ystyrir y darganfyddiad yma yn un o'r rhai pwysicaf o'r cyfnod yma yng Nghymru.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair-yn-Neubwll (pob oed) (1,874)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair-yn-Neubwll) (678)
  
38.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair-yn-Neubwll) (951)
  
50.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair-yn-Neubwll) (192)
  
28.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', Atlas Môn.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.