[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Mali Harries

Oddi ar Wicipedia
Mali Harries
Ganwyd6 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodMatthew Gravelle Edit this on Wikidata

Actores teledu a ffilm o Gymru yw Mali Rhys Harries (ganwyd 6 Gorffennaf 1976).[1] Mae hi wedi bod yn gweithio ym myd teledu ers 1999 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu Cymraeg a Saesneg fel The Bill, The Indian Doctor a Caerdydd.

Yn fwy diweddar, mae Harries wedi dod yn adnabyddus am ei gwaith gyda S4C, yn enwedig dramâu llwyddiannus fel Y Gwyll, Un Bore Mercher a’r sebon Pobol y Cwm.

Yn 2010, cyrhaeddodd Harries a Gravelle restr fer gwobrau BAFTA Cymru[2] am ei rhan fel Kate yn y gyfres deledu Caerdydd.

Rhwng 2013 a 2016 roedd Harries yn chwarae rhan DI Mared Rhys, un o'r prif rannau yng nghyfres dditectif Y Gwyll ar S4C (a'r fersiwn Saesneg Hinterland).[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar ôl iddi raddio o'r Old Vic ym Mryste, canolbwyntiodd ar weithio ym myd y theatr am nifer o flynyddoedd, a bu'n gweithio gyda'r Royal Shakespeare Company am gyfnod.

Mae Harries yn briod a'r actor Matthew Gravelle. Mae'r cwpl wedi chwarae eu priod/partner ar y sgrîn mewn sawl sioe deledu ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd .[4]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Ffilm Rhan Nodiadau
2002 Dirgelwch Yr Ogof Lucille
2003 Y Mabinogi Cigfa Llais yn unig
2006 Sixty Six Mrs Shivers
2008 Heavenly Father Sheley
2010 Leap Year Air Lingus Rep 1
2010 Rhwyd Eirlys

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1999 Dalziel and Pascoe Young Cissy Kohler Pennod: Recalled to Life
2000 P.O.V. Gloria
2000 Midsomer Murders Nurse O'Casey Pennod: Blue Herrings
2001 The Bill Wendy Pike Pennod: Crush
2002–2007 Foyle's War Jane Milner
2003 The Inspector Lynley Mysteries Nancy Pennod: A Suitable Vengeance
2003 Final Demand Corinne
2003 Byron Anna Rood/Fletcher
2003 Holby City Karen Edwards Pennod: Accidents will Happen
2004 May 33rd Sarah Sorensson
2004–2007 Pentre Bach Jini Prif ran
2005 The Bill Mandy Phelps
2005 Doctor Who Cathy Pennod: Boom Town
2006–2010 Caerdydd Kate Marshall 5 cyfres
2006 Brief Encounters Julie Owen
2006 Coming Up Shelley Pennod: Heavenly Father
2009 Murderland WPC Hart 2 bennod
2006, 2011, 2012 Doctors Sawl
2010–2013 The Indian Doctor Megan Evans Prif ran
2010 Pen Talar Siân Lewis
2009–2011 Ar y Tracs Sophie Thomas
2011 Casualty Elaine Armstrong
2011 Baker Boys Lucy
2012 The Best of Men Shirley Bowen Ffilm deledu
2012 The Richard Burton Diaries Adroddwr
2012 Being Human Lisa Monkton
2013-2016 Great Welsh Writers Adroddwr
2013-2016 Y Gwyll DI Mared Rhys Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Hinterland.
2015 Critical Nerys Merrick Prif ran
2015 Lewis Sarah Alderwood Pennod: What Lies Tangled
2016 New Blood MP Gwynn Hughes
2016-presennol Y Ditectif Cyflwynydd Cyfres ddogfen S4C
2017 Un Bore Mercher Bethan Price Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Keeping Faith.
2018-presennol Pobol y Cwm Jaclyn Parri
2024 The Way Dee Driscoll

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
  2. Why Bafta Cymru 2010 is a family affair Western Mail. 21-05-2010. Adalwyd ar 28-09-2010
  3. Cymeriadau Y Gwyll Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback, S4C; Adalwyd 2013-12-12
  4. "Wedding of the Year pair look back". The Western Mail. 9 April 2011.