Pen Talar
Gwedd
Pen Talar | |
---|---|
Siot sgrîn o logo'r gyfres | |
Genre | Drama |
Serennu | Richard Harrington Ryland Teifi Mali Harries Aneirin Hughes Eiry Thomas Dafydd Hywel |
Cyfansoddwr/wyr | Cian Ciarán Dafydd Ieuan |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg (is-deitlau Saesneg) |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 9 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.60 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Darllediad gwreiddiol | 12 Medi 2010 – 9 Tachwedd 2010 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Cyfres ddrama uchelgeisiol ar S4C oedd Pen Talar. Roedd y gyfres yn adrodd hynt a helynt dau deulu o orllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif, gan ddechrau yn y 1950au ac yn parhau i'r presennol. Nid yw'r prif actor Richard Harrington yn ymddangos tan y drydedd raglen o'r gyfres am fod y rhaglenni blaenorol yn dangos hanes bywyd ei gymeriad fel plentyn. Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r gyfres yn Cil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin ond gwnaed rhyw faint o ffilmio yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd hefyd. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Fiction Factory. Cynhyrchydd y gyfres oedd Gethin Scourfield a chyfarwyddwyd rhaglenni'r gyfres gan Gareth Bryn ac Ed Thomas.
Cast a chymeriadau
[golygu | golygu cod]Prif gymeriadau
[golygu | golygu cod]- Defi Lewis – Sam Davies (plentyn), Siôn Ifan (arddegwr), Richard Harrington (oedolyn)
- Enid Lewis (mam Defi) – Eiry Thomas
- John Lewis (tad Defi) – Aneirin Hughes
- Siân Lewis (chwaer Defi) – Llinos McCann (plentyn), Mali Harries (oedolyn)
- Douglas Green (ffrind gorau Defi) – Daniel Leyshon (plentyn), Gareth Jewell (arddegwr), Ryland Teifi (oedolyn)
- Albert Green – Dafydd Hywel
Penodau
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darllediad cyntaf | Gwylwyr [1] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1 (1962/1963)" | Gareth Bryn | Sion Eirian, Ed Thomas | 12 Medi 2010 | 56,000 |
Mae'r rhaglen gyntaf yn ymdrin â theulu'r Lewisiaid rhwng 1962-63. Gwelwn gymeriad Defi yn ddeng mlwydd oed. Mae'n byw yn Nyffryn Tywi ger Caerfyrddin. Mae ganddo gefndir dosbarth canol ac mae wedi derbyn addysg o safon uchel. Er iddo gael ei faldodi gan ei fam (Enid Lewis), mae ganddo elfen annibynnol iawn i'w bersonoliaeth. Mae Defi hefyd yn gannwyll llygad ei dad (John Lewis) hefyd, a phan mae'n 10 oed, mae'n amlwg ei fod yn edmygu ei dad yn fawr iawn. Gwelwn yn glir fod Defi yn fachgen deallus. Mae hefyd yn gyfaill agos i Douglas Green. | |||||
2 | "Pennod 2 (1969)" | Gareth Bryn | Sion Eirian, Ed Thomas | 19 Medi 2010 | 67,000 |
Yn y rhaglen hon, gwelwn Defi yn 17 oed ac yn llawer mwy gwleidyddol. Mae’n gwrthwynebu i Arwisgiad y Tywysog Siarl ac yn cefnogi mudiadau cenedlaetholgar mwy milwriaethus megis y FWA. Mae Defi hefyd yn cwrdd â chymeriad Awen am y tro cyntaf. Maent yn mynychu’r un ysgol ac mae Defi’n ysgrifennu cerdd iddi. Rhydd y gerdd yn ei desg yn yr ysgol ond wrth iddo adael caiff ei ddal gan yr athro Maldwyn “Brwmstan” Pritchard. Trannoeth, derbynia Awen y llythyr ond caiff ei gorfodi i’w ddarllen i’r dosbarth. Am fod y cynnwys o natur rywiol, mae Brwmstan yn cosbi Defi trwy gymryd ei fathodyn Swyddog wrtho a chysylltu â'i rieni. Serch hynny, mae Defi hefyd yn gweld Brwmstan yn dal dwylo gyda disgybl yn ei ddosbarth a cheir awgrym cryf ei fod yn dyheu amdani mewn ffordd rywiol. Mae Defi hefyd yn herio Brwmstan am yr hyn a wnaeth i Lorraine. Cynhelir ffug-etholiad yn yr ysgol gyda Defi’n cynrychioli Plaid Cymru. Erbyn diwedd y bennod mae Awen a Defi’n gariadon, er gwaethaf ymdrechion mam Defi i’w cadw ar wahân. | |||||
3 | "Pennod 3 (1974)" | Gareth Bryn | Sion Eirian, Ed Thomas | 26 Medi 2010 | 65,000 |
Bellach mae Defi yn 22 oed ac wedi cyrraedd Prifysgol Aberystwyth lle mae ei ddiddordeb ym myd gwleidyddiaeth yn parhau. Fodd bynnag, gwelir ei wleidyddiaeth yn mynd yn fwyfwy eithafol a radicalaidd. Erbyn hyn hefyd, mae Doug hefyd yn 22 oed ac wedi cael swydd fel gohebydd i bapur newydd lleol. Mae'n mwynhau'r ffaith ei fod yn ennill arian, a phan mae'n mynd i hôl Defi o'r brifysgol, gyrra yno yn ei gar newydd. Er bod y ddau ohonynt yn parhau i fod yn ffrindiau, gwelir y berthynas rhyngddynt yn araf ddirywio. | |||||
4 | "Pennod 4 (1979)" | Gareth Bryn | Sion Eirian, Ed Thomas | 3 Hydref 2010 | 72,000 |
Rydym yn gweld Defi yn 27 ac yn gweithio fel darlithiwr yn yr LSE. Mae'n byw gyda Isobel, ei gariad o brifysgol. Ar ddechrau'r bennod mae'n gorffen ei berthynas gydag Isobel ac yn symud nôl i Gymru gan ddechrau ei wleidyddiaeth eithafol unwaith eto. | |||||
5 | "Pennod 5 (1984)" | Gareth Bryn | Sion Eirian, Ed Thomas | 10 Hydref 2010 | 59,000 |
Mae streic y glöwyr yn ei anterth ac mae Defi'n athro mewn ysgol uwchradd yng Nghymoedd y De. Mae Defi wedi cymryd cam yn ôl o fywyd cyhoeddus ac ymgyrchu cenedlaethol ac yn manteisio ar y cyfle i feithrin ac ysbrydoli meddyliau ifanc yn y gymuned. | |||||
6 | "Pennod 6 (1990)" | Ed Thomas | Ed Thomas | 17 Hydref 2010 | 46,000 |
Defi wedi'n llwyr ail-gydio ym mywyd Caerdydd ar ôl drama'r wythdegau ac wedi dechrau gyrfa fel sgriptiwr. Mae ei fam yn dioddef o afiechyd alzheimers ym Mhen Talar ond does ganddo ddim amser i helpu ei chwaer sy'n edrych ar ei hôl. Yng nghanol hyn i gyd mae Awen, ei gariad o'r ysgol, yn dychwelyd i'w fywyd. | |||||
7 | "Pennod 7 (1997)" | Ed Thomas | Sion Eirian, Ed Thomas | 24 Hydref 2010 | 73,000 |
Mae hi'n 1997 ac mae Tony Blair a'r Blaid Lafur yn cipio'r etholiad cyffredinol. Gyda Llafur mewn pŵer, mae Defi'n taflu ei hun i mewn i'r ymgyrch ddatganoli. Mae e'n byw gydag Awen a'u merch, Mari, ym Mhen Talar gyda Siân. | |||||
8 | "Pennod 8 (1997)" | Ed Thomas | Ed Thomas | 31 Hydref 2010 | 43,000 |
Noson y refferendwm ac mae cyffro yn y wlad. Ond yn hytrach na dathlu, mae trasiedi yn taro Defi wrth i Awen farw yn dilyn damwain car. Mae Defi'n beio ei hun am y ddamwain ac mae pethau'n ddu iawn ym Mhen Talar. | |||||
9 | "Pennod 9 (2009/2010)" | Ed Thomas | Ed Thomas | 7 Tachwedd 2010 | 58,000 |
Mae Defi'n dal i fyw ym Mhen Talar gyda Doug a Siân tra bod Mari ei ferch yn astudio celf yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Mae'n hapus ei fyd nes i rywbeth ddigwyddodd yn 1962 ddychwelyd i darfu ar y llonyddwch unwaith yn rhagor ac mae'n rhaid iddo ymladd unwaith eto. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- PenTalarPedia Archifwyd 2010-11-11 yn y Peiriant Wayback - Wiki answyddogol i gydfynd â'r gyfres