Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf | |
---|---|
Arwyddair | Coron Gwlad Ei Mamiaith |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr. Matthew Evans |
Lleoliad | Heol y Bont, Ystum Taf, Caerdydd, Cymru, CF14 2JL |
AALl | Cyngor Dinas Caerdydd |
Disgyblion | 1,132 (2017) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas golau a thywyll |
Gwefan | www.glantaf.cymru |
Ysgol uwchradd gyfun Gymraeg yn ardal Ystum Taf, Caerdydd yw Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Hon oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghaerdydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr ysgol yn benllanw i flynyddoedd o ymgyrchu dros addysg Gymraeg. Agorodd ei drysau i'r disgyblion cyntaf (98 ohonynt) ym Medi 1978. Dewiswyd safle ysgol Saesneg ei chyfrwng, Glantaff, fel y lleoliad gan fod niferoedd yr ysgol Saesneg yn cwympo'n naturiol oherwydd rhesymau demograffig ac apêl ysgolion uwchradd eraill yn yr ardal. Prifathro cyntaf yr ysgol oedd Malcolm Thomas. Bu Mr Huw Thomas, Mrs Rhiannon Mary Lloyd a Mr Alun Davies yn brifathrawon yn yr ysgol. Y Pennaeth presennol yw Mr. Matthew Evans a ymunodd â’r ysgol ym mis Medi 2020 o Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.[1]
Erbyn y 1998 roedd cymaint o alw am addysg Gymraeg yng Nghaerdydd fel yr agorwyd ysgol arall, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Sefydlwyd trydedd ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, ym mis Medi 2012, a gartrefwyd ar ran o safle Glantaf dros dro, cyn symud i hen adeiladau Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ym Mhenylan ym mis Medi 2013.[2]
Arwyddair yr ysgol yw Coron gwlad ei mamiaith.
Dalgylch
[golygu | golygu cod]Dyma ysgolion cynradd dalgylch yr ysgol:
- Ysgol Glan Ceubal
- Ysgol Glan Morfa
- Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd
- Ysgol Mynydd Bychan
- Ysgol Pencae
- Ysgol Gymraeg Pwll Coch (o 2013-14)
- Ysgol y Wern
Cyn-ddisgyblion o nod
[golygu | golygu cod]- Gweler y categori Categori:Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
- Rhys ab Owen - gwleidydd Plaid Cymru
- Huw Bunford - aelod o'r Super Furry Animals
- Ioan Gruffudd - actor
- Branwen Gwyn - cyflwynydd teledu
- Ffion Hague - darlledwraig, awdur a chyn-was sifil
- Siân Lewis - pennaeth Tafwyl a'r Urdd
- Gethin Jones - cyflwynydd teledu
- Siôn Jobbins - cyn-gadeirydd YesCymru
- Eluned Morgan - gwleidydd Llafur a phrif weinidog Cymru
- Llwyd Owen - nofelydd
- Rhys Patchell - chwaraewr rygbi
- Matthew Pritchard - cyflwynydd teledu
- Guto Pryce - aelod o'r Super Furry Animals
- Jamie Roberts - chwaraewr rygbi
- Jamie Robinson - chwaraewr rygbi
- Nicky Robinson - chwaraewr rygbi
- Matthew Rhys - actor
- Huw Stephens - DJ radio
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ School Details: Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Cyngor Caerdydd.
- ↑ Gwybodaeth ychwanegol o ran trefniadau derbyn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. Cyngor Caerdydd (28 Hydref 2011). Adalwyd ar 22 Mehefin 2012.