The Way
Cyfres deledu yn tair rhan yw The Way, a grëwyd gan James Graham, Michael Sheen ac Adam Curtis. Gwnaeth Sheen cyfarwyddu o sgript Graham. Mae’r gyfres yn digwydd yn bennaf ym Mhort Talbot yn y 2020au, lle bu terfysgoedd o ganlyniad i broblemau yn y gwaith dur. Nid oedd y beirniaid yn hoffi'r rhaglen ar y cyfan.
Datblygiad
[golygu | golygu cod]Ym mis Chwefror 2023 cyhoeddwyd bod y BBC ar fwrdd y prosiect a ysgrifennwyd gan James Graham ac a gyfarwyddwyd gan Michael Sheen, a grëwyd gan Sheen a Graham gydag Adam Curtis . Derek Ritchie yw cynhyrchydd a Bethan Jones yw cynhyrchydd gweithredol i Red Seam, a Rebecca Ferguson i'r BBC. Mae ITV Studios yn ddosbarthwr rhyngwladol a darparwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. [1]
Ffilmio
[golygu | golygu cod]Digwyddodd y ffilmio yn Neuadd y Sir, Trefynwy, ym mis Mai 2023. [2] Digwyddodd y rhan fwyaf o'r ffilmio ym Mhort Talbot,[3] rhwng mis Ebrill a misMehefin 2023. [4] Ffilmiwyd golygfeydd eraill yn Abertawe a'r Fenni.[5]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Steffan Rhodri fel Geoff Driscoll, stiward undeb llafur yng ngwaith dur Port Talbot.
- Mali Harries fel Dee Driscoll, gwraig Geoff yn gyn-wraig ac yn fam i Thea ac Owen.
- Sophie Melville fel Thea Driscoll, heddwas sy'n byw ym Mhort Talbot gyda'i theulu a'i mab ifanc.
- Callum Scott Howells fel Owen Driscoll, brawd Thea, sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau.
- Teilo James Le Masurier fel Rhys Driscoll, mab ifanc Thea a Dan.
- Michael Sheen fel Denny Driscoll, diweddar dad Geoff, a gymerodd ran yn streic y glowyr yn 1984.
- Maja Laskowska fel Anna, mewnfudwr Pwylaidd a ffrind Owen.
- Aneurin Barnard fel Dan, gwr Thea, yn gweithio yn yr Almaen.
- Mark Lewis Jones fel Glynn, gweithiwr dur ym Mhort Talbot.
- Matthew Aubrey fel Neil Griffiths, MS lleol.
- Tom Cullen fel Jack Price, AS Port Talbot.
- Luke Evans fel Hogwood, asiant y llywodraeth o'r enw "The Welsh Catcher".
- Paul Rhys fel Akela, arweinydd gwersyll ffoaduriaid Cymreig.
- Catherine Ayers fel Elaine, chwaer Dee a gwraig Hector.
- Patrick Baladi fel Hector, aelod o'r Seiri Rhyddion.
- Derek Hutchinson fel Philip, taid Rhys Driscoll.
- Jonathan Nefydd fel Simon "y prophwyd".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Golbart, Max (16 Chwefror 2023). "James Graham, Michael Sheen & Adam Curtis Combine On Dystopian Drama 'The Way' For The BBC". Deadline Hollywood (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
- ↑ Hughes, Janet (6 Mai 2023). "Hollywood royalty Michael Sheen expected to roll into town on Coronation Day". Walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
- ↑ Evans, Connie; Dowrick, Molly (17 Chwefror 2023). "Michael Sheen to direct new BBC drama The Way and it's being filmed in his home town". Walesonline.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mai 2023.
- ↑ "Michael Sheen begins directing The Way in South Wales". Theknowledgeonline.com (yn Saesneg). 25 Ebrill 2023. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.
- ↑ Natalie Wilson (21 Chwefror 2024). "Where is BBC drama The Way set? Wales filming locations for Michael Sheen's new miniseries". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Chwefror 2024.