Marchogyddiaeth
Mae marchogyddiaeth, sydd hefyd cael ei adnabod yn aml fel marchogaeth, yn cyfeirio at y sgil a'r gamp o reidio, gyrru a llamu â cheffylau. Mae'r disgrifiad eang hwn yn cynnwys defnyddio ceffylau at ddibenion gwaith ymarferol, cludiant, gweithgareddau hamdden, ymarferion artistig neu ddiwylliannol, a chwaraeon cystadleuol.
Credir bod ceffylau wedi'u marchogaeth am y tro cyntaf tua 3500 CC. Mae'r dystiolaeth archeolegol gynharaf o geffylau yn cael eu defnyddio i gyflawni gwaith yn enghreifftiau ohonynt yn cael eu gyrru. Mae claddedigaethau cerbydau sy'n dyddio'n ôl i tua 2500 CC yn dystiolaeth gadarn eu bod yn cael eu defnyddio fel anifeiliaid ar gyfer gwaith. I dynnu cerbydau y defnyddiwyd hwy gyntaf wrth ryfela hefyd, ac yn ddiweddarach y dechreuodd milwyr eu marchogaeth.
Mae'r ceffyl wedi cael rhan bwysig yn hanes y ddynoliaeth ledled y byd, mewn gweithgareddau fel trafnidiaeth , masnach ac amaethyddiaeth, yn ogystal â chwaraeon a rhyfela.
Roedd ceffylau yn byw yng Ngogledd America filoedd o flynyddoedd yn ôl, ond difodwyd hwy ar ddiwedd Oes yr Iâ. Daethpwyd â cheffylau yn ôl i Ogledd America gan Ewropeaid, gan ddechrau gydag ail fordaith Columbus yn 1493.[1]
Cyflwynwyd marchogaeth yn Gemau Olympaidd yr Haf 1900 fel camp Olympaidd gyda digwyddiadau neidio.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bennett, Deb (1998) 'Conquerors: The Roots of New World Horsemanship. Amigo Publications Inc; 1st edition. ISBN 0-9658533-0-6, p. 151