Morthwyl y glust
Enghraifft o'r canlynol | chiral bone type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | esgyrnyn, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | esgyrnyn |
Cysylltir gyda | drwm y glust, Eingion y glust, tensor tympani muscle |
Yn cynnwys | handle of malleus, head of malleus, neck of malleus, lateral process of malleus, anterior process of malleus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae morthwyl y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp morthwyl yn y glust ganol sy'n cysylltu ag eingion y glust. Mae wedi'i gysylltu ag arwyneb mewnol drwm y glust. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r bilen i'r eingion. Weithau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n maliws o'r Lladin am forthwyl malleus[1] .
Strwythur
[golygu | golygu cod]Mae'r morthwyl yn asgwrn yn y glust ganol. Dyma'r cyntaf o'r tri esgyrnyn. Mae ynghlwm wrth drwm y glust (y bilen dympanig). Pen y morthwyl yw'r adran fawr sy'n cysylltu â'r eingion. Mae'r pen yn cysylltu â gwddf y morthwyl, mae'r gwddf yn cysylltu â choes y morthwyl sydd yn ei dro yn cysylltu â drwm y glust. Rhwng y gwddf a'r goes mae'r cnap blaen a'r cnap cefn yn ymwthio allan o'r asgwrn.
Mae'r morthwyl yn unigryw i famaliaid, fe esblygodd allan o'r asgwrn cymalol yn rhan isaf yr ên yn yr amniotau cynharaf. Mae'r asgwrn cymalol yn parhau i fod yn rhan o'r ên mewn ymlusgiaid ac adar[2].
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r morthwyl yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r bilen dympanig (drwm y glust) i'r glust fewnol. Mae'r morthwyl yn derbyn dirgryniadau o'r bilen dympanig ac yn eu trosglwyddo i'r eingion.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad morthwyl y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[3]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[4] y morthwyl mewn ychydig mwy o fanylder ac fe'i cyffelybodd ef a'r eingion â morthwylion bychan gan eu galw'n malleoli.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mitchell, Richard L. Drake, Wayne Vogl, Adam W. M. (2005). Gray's anatomy for students. Philadelphia, Pa.: Elsevier. t. 862. ISBN 978-0-8089-2306-0.
- ↑ Allin EF (December 1975). "Evolution of the mammalian middle ear". J. Morphol. 147 (4): 403–37. doi:10.1002/jmor.1051470404. PMID 1202224.
- ↑ Jacopo Berengario da Carpi,Commentaria super anatomia Mundini, Bologna, 1521. https://archive.org/details/ita-bnc-mag-00001056-001
- ↑ Niccolo Massa, Liber introductorius anatomiae, Venice, 1536. p.166. http://reader.digitale-sammlungen.de/en/fs1/object/display/bsb10151904_00001.html