Diazepam
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | benzodiazepine drug, alkaloid |
Màs | 284.072 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₆h₁₃cln₂o |
Clefydau i'w trin | Anhwylder panig, anhwylder gorbryder, cyflwr epileptig, sbastigedd, anhwylder seicotig, anhunedd, camddefnyddio sylweddau, epilepsi, gordyndra, sleep-wake disorder |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Rhan o | diazepam binding |
Gwneuthurwr | Pfizer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae diazepam yn gyffur sy'n perthyn i deulu benzodiazepin[1]. Mae ganddi hanner oes cymharol hir. Fe'i defnyddir yn bennaf i drin anhwylder gorbryder, mathau penodol o epilepsi, a phroblemau cysgu. Yn debyg i bob cyffur yn y teulu benzodiazepin, mae yna berygl o fagu dibyniaeth o'i ddefnyddio'n rheolaidd. O herwydd hyn, defnyddir y cyffur i drin achosion acíwt gan amlaf. Ni ddylid ei gymryd am fwy nag ychydig wythnosau. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae diazepam yn gyffur hanfodol.
Mae diazepam yn cael ei farchnata o dan nifer o enwau: ei enw masnach gwreiddiol oedd Valium. Yn ogystal â'i defnydd clinigol fe'i defnyddir yn hamddenol hefyd, er mwyn creu effaith o lonyddwch. Yng ngwledydd Prydain mae diazepam ar gael trwy bresgripsiwn yn unig; mae defnydd hamddenol o'r cyffur yn anghyfreithiol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd diazepam yn wreiddiol gan Dr Leo Sternbach o gwmni cemegol Hoffman-La Roche yn labordy'r cwmni yn Nutley, New Jersey [2]. Trwyddedwyd y cyffur at ddefnydd clinigol ym 1963.
Defnydd
[golygu | golygu cod]Defnyddir diazepam yn bennaf i drin anhwylder gorbryder, anhunedd (anawsterau cysgu; insomnia) ac ymosodiadau panig. Fe'i defnyddir i drin symptomau ymatal rhag alcohol wrth drin pobl sy'n ddibynnol ar alcohol. Fe'i defnyddir hefyd fel rhagfoddion cyn rhai gweithdrefnau meddygol megis endosgopi[3].
Mae diazepam yn cael ei defnyddio i drin cyflwr status epilepticus, cyflwr lle mae ffit epileptig yn para yn hir iawn neu fod claf yn cael nifer o ffitiau yn olynol. Mae'n cael ei weini, fel arfer trwy bigiad neu drwy diwb reidol[4][5]
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae'r sgil effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys syrthni, atacsia, a gwendid yn y cyhyrau [1].
Gyrru
[golygu | golygu cod]Gall diazepam achosi arafu yn y gallu i adweithio, penysgafnder ac ymddygiad ymosodol. Dylai claf sydd yn dioddef o unrhyw un o'r effeithiau hyn osgoi gyrru a dylai claf sy'n newydd i'r moddion osgoi gyrru cyn gwybod sut effaith bydd y cyffur yn ei gael arno neu arni [1].
Beichiogrwydd
[golygu | golygu cod]Gall y cyffur achosi effeithiau andwyol ar y baban yn y groth a thrafferthion wrth esgor. Mae modd trosglwyddo'r cyffur i faban trwy laeth y fron [1]. Oherwydd y peryglon hyn awgrymir y dylai merched o oedran cenhedlu ddefnyddio offer atal cenhedlu wrth ddefnyddio'r feddyginiaeth. Dylai merched sy'n cynllunio i gael plant drafod eu cyfundrefn meddyginiaeth gyda'u meddyg cyn beichiogi. Ni ddylai merched sy'n cymryd diazepam sy'n canfod eu bod yn feichiog roi'r gorau i'r feddyginiaeth yn ddisymwth, ond dylai'r darpar fam gysylltu â'i meddyg fel mater o frys.
Alcohol
[golygu | golygu cod]Dylid osgoi alcohol wrth ddefnyddio'r moddion gan fod alcohol yn cynyddu effeithiau tawelydd y cyffur [1].
Rhybudd Cyngor Meddygol
[golygu | golygu cod]
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 BMA New Guide to Medicine & Drugs; BMA 2015 ISBN 0241183413
- ↑ New York Times 26 Mehefin, 2012 Roche to Shut Former U.S. Headquarters adalwyd 15 Awst 2017
- ↑ Bråthen G, Ben-Menachem E, Brodtkorb E, Galvin R, Garcia-Monco JC, Halasz P, Hillbom M, Leone MA, Young AB: European Journal of Neurology Cyf 12 Rhif 8 tud 575–81 Awst 2005 EFNS guideline on the diagnosis and management of alcohol-related seizures: report of an EFNS task force
- ↑ Diazepam (rectal) for stopping seizures Archifwyd 2017-08-14 yn y Peiriant Wayback adalwyd 15 Awst 2017
- ↑ British Journal of Clinical Pharmacology 1982 Maw; 13(3): 427–432 Bioavailability of diazepam after intravenous, oral and rectal administration in adult epileptic patients adalwyd 15 Awst 2017