Baner Cabo Verde
Baner Capo Verde yw'r faner genedlaethol Gweriniaeth Cape Verde - casgliad o ynysoedd i'r gorllewin o Orllewin Affrica bu o dan reolaeth Portiwgal am ganrifoedd. Ystyr enw'r wlad y 'Penrhyn Gwyrdd' yn Portiwgaleg. Arddelir y sillafiad Portiwgaleg, Capo Verde a'r sillafiad Saesneg, Cape Verde, ar y wlad yn y Gymraeg a hefyd, yr anghymarus, Penrhyn Verde.
Dyma'r faner sifil, wladwriaethol, morol a milwrol.
Dyluniad
[golygu | golygu cod]Mae'n cynnwys maes las gyda thair band llorweddol gwyn-goch-wyn sy'n croesi'r petryal ychydig yn is na'r canol. O ran dyluniad cywir, mae'r faner wedi ei rhannu'n 12 'streip' (y 'streip' las yn anweledig) ar draws, mae'r cymhareb yn dilyn: 6 (glas) :1 (gwyn) :1 (coch) :1 (gwyn) :3 (glas). Mae'r cylch o sêr wedi ei lleoli 3⁄8 ar hyd y faner.
Mae cylch o ddeg sêr melyn yn adleisio baner yr Undeb Ewropeaidd neu faner Ynysoedd Cook yn y Môr Tawel. Mae pedwar o'r sêr yma yn torri Rheol Tintur, gan eu bod yn "rhoi metal ar fetal" hynny yw, melyn ar gefndir gwyn, sy'n anodd i'r lygad ei weld o bellter.
Diffinnir cyfansoddiad y faner yn Erthygl 8 Cyfansoddiad Cape Verde 1.[1]
Cymesuredd y faner 'de jure' (os nad de fact gan na chyfeirir ati yn y cyfansoddiad) yw 2:3.[2]
Symboliaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r glas yn symboli Cefnfor yr Iwerydd a'r awyr ac mae'r deg seren yn symboli'r deg ynys sy'n ffurfio yr archipelago (ynysoedd Barlavento ac ynysoedd Sotavento). Gall y trefniant mewn cylch gofio cymaint o warediad daearyddol fel undod y trigolion.
Mae'r band gwyn yn cynrychioli heddychiaeth yr ynyswyr ac yn coch eu hymdrech.
Baneri hanesyddol
[golygu | golygu cod]Enillodd Capo Verde ei hannybyniaeth oddi ar Portiwgal yn 1975. Roedd y faner gyntaf, rhwng 1975 a 1992, yn cynnwys lliwiau Pan-Affricanaidd, yn union fel Baner Gini Bisaw - trefedigaeth Portiwgaleg arall yn Affrica. Seiliwyd lliwiau'r faner yma ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt. Roedd y faner yma yn union yr un peth â baner Gini Bisaw, ond gyda torch ŷd a chragen y môr yn cwpanu'r seren ddu yn y band goch. Yn ogystal, roedd y cyfrannau yn wahanol rhwng hyd a uchder.
Roedd y ddau drefedigaeth Portiwgalaidd hyn wedi bwriadu ffurfio un wladwriaeth unedig, dan arweiniad Plaid Affrica dros Annibyniaeth Gini a Capo Verde (Partido Africano para a Independência da Guiné e Cabo Verde, PAIGC). Ar ôl y coup d'état yn Gini Bisaw yn 1980, rhoddwyd gorau i'r bwriad yma.
Baneri Cyfnod Trefediaethol
[golygu | golygu cod]Cyn annibyniaeth yn 1975, defnyddiwyd neu gynigiwyd baneri eraill yn ystod y cyfnod trefedigaethol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd Baner Cymuned Gwledydd yr Iaith Portiwgaleg y mae Cabo Verde yn aelod ohoni.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Article 8 of the Constitution of the Republic Archifwyd 2009-08-12 yn y Peiriant Wayback (in Portuguese)
- ↑ Cape Verde flag in Flags of the World