Rhys Goch Eryri
Bardd o gyfnod Owain Glyn Dŵr a Rhyfeloedd y Rhosynnau oedd Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448).[1] Roedd yn gywyddwr medrus a phriodolir nifer o gerddi brud iddo yn ogystal.
Rhys Goch Eryri | |
---|---|
Ffugenw | Rhys Goch o Eryri |
Ganwyd | 14 g |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguRoedd yn frodor o ardal Beddgelert yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd). Ei athro barddol oedd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Lygliw. Roedd yn gyfaill i'r bardd Llywelyn ap Moel y Pantri a chanodd farwnad iddo. Ceir cyfres o gerddi ymryson rhwng Rhys, Llywelyn a Siôn Cent ynghlych swyddogaeth y beirdd a natur yr Awen. Ymhlith y beirdd eraill yr oedd yn adnabod yr oedd Dafydd Nanmor, a drigai yn yr un ardal; mae'n bosibl fod Rhys Goch yn athro barddol iddo. Yn ôl traddodiad treuliodd Rhys Goch ei oes gyfan yn ardal Eryri. Roedd ganddo blasdy bychan yn Hafod Garegog ger Beddgelert a chafodd ei gladdu yn y pentref, yn eglwys Priordy Beddgelert, yn ôl y traddodiad.[1]
Cerddi
golyguCeir sawl testun cerdd brud a briodolir i Rys ond mae'r awduraeth yn ansicr ac yn cael ei gwrthod gan ysgolheigion diweddar. Cywyddau traddodiadol yw'r mwyafrif o'i gerddi. Ei brif noddwr oedd Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn (ardal Llandygái, ger Bangor).[1]
Cywyddau mawl
golyguCanodd i Robert ap Meredudd, un o hynafwyr Syr John Wynn o Wydir, pan fu'r uchelwr hwnnw allan gyda Glyn Dŵr. Ceir cywydd yn olrhain achau Wiliam Fychan Siambrlen Hen a chywydd i Syr Gruffudd Fychan. Canodd foliant i lys Gwilym ap Gruffudd. Yn y cerddi hyn amlygir cefnogaeth y bardd i achos Owain Glyn Dŵr.[1]
Cywyddau marwnad
golyguCanodd farwnadau i Feredudd ap Cynfrig o Fôn, Gwilym ap Gruffudd. Canodd farwnad i'w gyfaill a chyd-fardd Llywelyn ap Moel y Pantri.[1]
Cerddi eraill
golyguPriodolir y gerdd ymddiddan rhwng bardd a Charnedd Llywelyn i Rys Goch, ond bernir heddiw mai Ieuan ap Gruffudd Leiaf oedd yr awdur. Diddorol hefyd a phwysig er mwyn deall syniadaeth y beirdd am eu crefft yn y cyfnod hwnnw yw'r cywyddau ymryson rhwng Rhys Goch a Siôn Cent.[1]
Ceir cywyddau ganddo i ddiolch am gyllell hir, a dau gywydd dychanol i'r farf. Ei gerdd fwyaf anghyffredin efallai yw cywydd i'r llwynog yn erchi iddo ladd paun y bardd Dafydd Nanmor, cymydog iddo.[1]
Canodd gywydd i Feuno Sant yn ogystal.[1]
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Y golygiad diweddaraf a mwyaf safonol yw,
- Gwaith Rhys Goch Eryri, gol. Dylan Foster Evans, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Aberystwyth, 2007)
Gweler hefyd,
- Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, gol. Henry Lewis ac eraill (Caerdydd, 1937). Mae'r 'eraill' yn cynnwys adran o destunau Rhys Goch Eryri, golygwyd gan Ifor Williams.
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd