Mab Clochyddyn
Bardd Cymraeg sy'n perthyn i do cyntaf Beirdd yr Uchelwyr oedd Mab Clochyddyn (fl. hanner cyntaf y 14g). Gellir derbyn yn weddol hyderus ei fod yn frodor o Fôn.[1]
Mab Clochyddyn | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1380 |
Bywgraffiad
golyguNi wyddom fawr dim amdano ond mae ei waith yn ei gysylltu ag Ynys Môn (gweler isod). Enw barddol yw 'Mab Clochyddyn'. Amlwg fod 'Clochyddyn' (clochydd bychan neu druenus) yn cyfeirio at dad y bardd. Ceir cofnod o un Dafydd ap Clochyddyn yn byw yn Nhalybolion yn 1347, ond er bod y bardd wedi canu i ferch o'r cwmwd hwnnw (gweler isod) ni ellir bod yn sicr mai cyfeiriad ato ydyw.[1]
Cerddi
golyguMae'r ddwy gerdd o'i waith sydd yn goroesi yn ei gysylltu ag Ynys Môn. Marwnad i Wenhwyfar, merch o Edeirnion a ddaeth yn wraig i uchelwr o blwyf Llanfechell, cwmwd Talybolion, ac a gladdwyd yn Llan-faes, yw'r cyntaf a'r pwysicaf o'r ddau destun. Canodd Gronw Gyriog farwnad iddi hefyd.[1]
Dau englyn dychan, rhan o gerdd hirach efallai, i ryw "ffalsiwr" (bardd o radd isel, un o'r Glêr efallai) yn bygwth dial arno pe ddychwelai i Fôn yw'r ail destun.[1]
Cedwir testunau cynharaf y ddwy gerdd hyn yn Llyfr Coch Hergest.[1]
Llyfryddiaeth
golyguGolygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,
- Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd