[go: up one dir, main page]

Rhodogeidio

pentref ar Ynys Môn

Plwyf eglwysig a pentrefan ar Ynys Môn yw Rhodogeidio ( ynganiad ). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r gogledd o'r Fali. Saif y pentrefan yng nghymuned Llannerch-y-medd.

Rhodogeidio
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.34662°N 4.40502°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Ystyr yr enw yw 'Amddiffynfa Ceidio' (rhodwydd 'amddiffynfa', cf. castell Tomen y Rhodwydd) a Rhodwydd Geidio yw'r enw llawn a geir mewn rhai dogfennau.[1] Sant lleol oedd Ceidio, sef Ceidio ap Caw (6g); ni wyddys rhagor na hynny amdano.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
Comin Wikimedia 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato