[go: up one dir, main page]

Llandegfan

pentref ar Ynys Môn

Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llandegfan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o briffordd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.

Llandegfan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2391°N 4.1517°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH565735 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Melin wynt Llandegfan

Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[3]

Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.

Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.

Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.

Eisteddfod

golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.

Chwaraeon

golygu

Mae yna dim pêl-droed yn y pentref, CPD Llandegfan sydd yn chwarae ar gae Lôn Tŷ Newydd. Mae'r clwb wedi cael trafferthion ariannol yn y gorffennol, ond rwan erbyn 2018 mae'r tim wedi ail-sefydlu ac maen nhw yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.

Mae'r Ysgol Gynradd hefo cyfleusterau chwaraeon cymharol well na lot o ysgolion o'i gwmpas. Mae gan yr ysgol dimau pêl-droed, rygbi 'tag', pêl-rwyd, hoci, a nofio.

Mae'r tafarn yn cynnal clybiau dartiau a hefyd snwcer/pŵl.

Pobl o Landegfan

golygu

Bu Aled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
  3. (Cymraeg) GENUKI. Gwefan swyddogol. GENUKI. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.

Dolen allanol

golygu