[go: up one dir, main page]

Pentraeth

pentref ar Ynys Môn

Pentref a chymuned yn Ynys Môn, Cymru, yw Pentraeth.[1][2] Saif ar lôn yr A5025. Saif yn ne-ddwyrain yr ysnys. Ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cors Bodeilio gerllaw.

Pentraeth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaBrwydr Pentraeth Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,222 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaCwm Cadnant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2819°N 4.2158°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000873 Edit this on Wikidata
Cod OSSH523784 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Teras y Nant, Penraeth

Hanes a thraddodiad

golygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gorwedd yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ystyr yr enw yw "diwedd y traeth" ond erbyn heddiw mae'r môr (Y Traeth Coch) yn filltir i ffwrdd o'r pentref. Hen enw'r pentref a'r plwyf oedd Llanfair Betws Geraint (weithiau Betws Geraint yn unig).[3]

Ceir hen chwareli yn y bryniau isel ger y pentref. I'r dwyrain o'r eglwys ceir tri maen hir a elwir Y Tair Naid. Heb fod ymhell o'r pentref i gyfeiriad y gorllewin mae traddodiad yn nodi'r man lle cyflawnodd y bardd Einion ap Gwalchmai "Naid Abernodwydd".

Brwydr Pentraeth

golygu

Ymladdwyd Brwydr Pentraeth ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170. Bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd Hywel yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan Dafydd a Rhodri ym mrwydr Pentraeth. Coffheir Hywel a'i frodyr maeth mewn dwy gyfres o englynion marwnad gan y bardd Peryf ap Cedifor.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pentraeth (pob oed) (1,178)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentraeth) (633)
  
56%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentraeth) (724)
  
61.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pentraeth) (158)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Adeiladau a chofadeiladau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. VisionOfBritain.org[dolen farw]
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]