Peiriant Wayback
Archif ddigidol o'r we fyd-eang yw Peiriant Wayback, a sefydlwyd gan Archif y Rhyngrwyd, sef llyfrgell nid-er-elw yn San Francisco yn yr Unol Daleithiau.[1] Mae'r wefan yn caniatáu i'r defnyddiwr fynd “yn ôl mewn amser” a gweld sut roedd gwefannau'n edrych yn y gorffennol.
Enghraifft o'r canlynol | web archive |
---|---|
Crëwr | Brewster Kahle, Bruce Gilliat |
Rhan o | Internet Archive |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 29 Hydref 2001 |
Perchennog | Internet Archive |
Gweithredwr | Internet Archive |
Gwefan | https://web.archive.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aeth sylfaenwyr Peiriant Wayback, sef Brewster Kahle a Bruce Gilliat, ati i'w ddatblygu gyda'r nod o ddarparu "mynediad i bawb at yr holl wybodaeth" drwy gadw copïau wedi'u harchifo o dudalennau gwe sydd wedi dod i ben.[2] Ers ei lansio ym 1996, mae dros 544 biliwn o dudalennau wedi'u hychwanegu at yr archif. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn ddadleuol wrth i rai awgrymu bod creu tudalennau wedi'u harchifo heb ganiatâd y perchennog yn gyfystyr â thorri hawlfraint mewn rhai awdurdodaethau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Wayback Machine General Information". archive.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-05. Cyrchwyd 2 Mar 2021.
- ↑ Notess, Greg R. (March–April 2002). "The Wayback Machine: The Web's Archive". Online 26: 59–61.