[go: up one dir, main page]

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 oedd y 55ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Fe'i cynhaliwyd rhwng 25 a 29 Mai 2010 yn Oslo, Norwy[2], Norwy. Thema'r gystadleuaeth oedd "Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment" yn Gymraeg). Bu 39 gwlad yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Dychwelodd Georgia i'r gystadleuaeth ar ôl blwyddyn o absenoldeb, ond ni chystadlodd Andorra, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari na Montenegro.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010
"Share The Moment"
("Rhannwch Y Foment")
Dyddiad(au)
Rownd cyn-derfynol 125 Mai 2010
Rownd cyn-derfynol 227 Mai 2010
Rownd terfynol29 Mai 2010
Cynhyrchiad
LleoliadArena Telenor, Bærum, Oslo, Norwy
CyflwynyddionErik Solbakken
Haddy N'jie
Nadia Hasnaoui[1]
Cystadleuwyr
Tynnu'n ôlBaner Andorra Andorra
Baner Gweriniaeth Tsiec Gweriniaeth Tsiec
Baner Hwngari Hwngari
Baner Montenegro Montenegro
Canlyniadau
◀2009 Cystadleuaeth Cân Eurovision 2011▶

Cyhoeddodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai'n ceisio perswadio cwmnïau darlledu'r Eidal, Lwcsembwrg, Monaco ac Awstria i ddychwelyd yn 2010[3] ond ni bu'r trafodion hyn yn llwyddiannus am amryw o resymau. Erbyn 13 Mai 2009, roedd yr EBU wedi cadarnhau na allai Kazakhstan, Qatar a gwledydd tebyg gystadlu am eu bod yn disgyn y tu allan i'r Ardal Ddarlledu Ewropeaidd. Nid oedd gwledydd newydd posib yn gymwys[4] .

Man cyfarfod

golygu

Ar 3 Gorffennaf 2009, penderfynodd cwmni darlledu Norwy, NRK, gynnal y gystadleuaeth yn y Fornebu Arena (a arferai gael ei alw'n Arena Telenor), Bærum, yn agos i ganol dinas Oslo.[5] Cyhoeddodd gweinidog diwylliant Norwy, Trond Giske, yn wreiddiol y byddai cyllideb o 17 miliwn (150 miliwn Kroner) yn cael ei gwario ar y gystadleuaeth, cyfanswm llai nag a wariwyd ar gystadleuaeth Moscow 2009 ond yn fwy na chystadleuaeth Helsinki 2007[6]. Ar 27 Mai amcangyfrifwyd mai 211 miliwn kroner (€24 miliwn) oedd gwir gost y gyngerdd.[7]

Dyluniad

golygu
 
Logo cyntaf i gael ei gyhoeddi

Dangoswyd y thema a'r slogan gan NRK ar 4 Rhagfyr 2009 yn ystod y Gyfnewidfa Arwyddluniau Dinasoedd Cynhalwyr y gystadleuaeth rhwng meiri Moscow, Oslo a Bærum. Symboleiddiodd hyn ddechrau swyddogol tymor Cystadleuaeth Gân Eurovision 2010. Dewiswyd y thema, casgliad cylchau sydd yn croesi, i 'gynrychioli pobl yn dod at ei gilydd ac emosyinau amrywiol Cystadleuaeth Gân Eurovision'.[8] Cyhoeddwyd rhagolwg y llwyfan ar 6 Mai 2010. Doedd y llwyfan ddim yn defnyddio sgriniau LED ond roedd yn cynnwys technegau golau.[9]

Cyflwynwyr

golygu

Roedd llawer o syniadau yn y wasg Norwyaidd am gyflwyr posib ar gyfer cystadleuaeth 2010. Crybwyllwyd enwau cyflwynwyr NRK Jon Almaas a Fredrick Skavlan, ac enillodd cyflwynwyr poblogaidd TV 2 Thomas Numme a Harald Rønneberg arolwg barn Dagbladet (papur newydd Norwyaidd) ar ei wefan.[10]

Cyhoeddodd NRK enwau'r cyflwynwyr ar 10 Mai 2010, sef Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui. Roedd Solbakken a N'jie i fod i agor y sioeau, cyflwyno'r artistiaid a rhoi adroddiadau o'r ystafell werdd. Rhan Hasnaoui oedd cyflwyno'r pleidleisiau a'r bwrdd sgôr. Dyma'r ail dro i'r Eurovision gael ei chyflwyno gan fwy na dau gyflwynydd ers Cystadleuaeth Cân Eurovision 1999.

Fformat

golygu

Ar 7 Chwefror 2010 rhannwyd y gwledydd ym bum grŵp yn ôl patrymau pleidleisio yn y cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r pum pot i benderfynu pa wledydd fyddai'n cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a pa rai fyddai'n cael lle yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r Pedwar Mawr (Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen a'r Almaen) a'r gwesteiwyr Norwy yn pleidleisio yn dilyn fformat 2009.

Pot 1 Pot 2 Pot 3 Pot 4 Pot 5

Canlyniadau

golygu

Cadarnhaodd 39 gwlad eu bwriad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2010.

Y Rownd Gyn-derfynol Gyntaf

golygu
  • Cynhaliwyd y rownd gyn-derfynol gyntaf yn Oslo ar 25 Mai 2010.
  • Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
  • Pleidleisiodd yr Almaen, Ffrainc a Sbaen yn y rownd gyn-derfynol hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01 Baner Moldofa  Moldofa Saesneg SunStroke Project ac Olia Tira "Run Away" Rhedeg i Ffwrdd 10 52
02 Baner Rwsia  Rwsia Saesneg Peter Nalitch Band "Lost and Forgotten" Ar Goll ac Anghofiwyd 7 74
03 Baner Estonia  Estonia Saesneg Malcolm Lincoln a Manpower 4 "Siren" Seiren 14 39
04 Baner Slofacia  Slofacia Slofaceg Kristina "Horehronie" 16 24
05 Baner Y Ffindir  Y Ffindir Ffinneg Kuunkuiskaajat "Työlki ellää" Gallwch byw trwy gweithio, hefyd 11 49
06 Baner Latfia  Latfia Saesneg Aisha "What For?" Am Beth? 17 11
07 Baner Serbia  Serbia Serbeg Milan Stanković "Ovo je Balkan" (Oво je Балкан) Dyma'r Balcannau 5 79
08 Baner Bosnia a Hercegovina  Bosnia-Hertsegofina Saesneg Vukašin Brajić "Thunder and Lightning" Taran a Mellt 8 59
09 Baner Gwlad Pwyl  Gwlad Pwyl Saesneg, Pwyleg Marcin Mroziński "Legenda" Y Chwedl 13 44
10 Baner Gwlad Belg  Gwlad Belg Saesneg Tom Dice "Me and My Guitar" Fi a'm Gitâr 1 167
11 Baner Malta  Malta Saesneg Thea Garrett "My Dream" Fy Mreuddwyd 12 45
12 Baner Albania  Albania Saesneg Juliana Pasha "It's All About You" Mae'n Amdanoch Chi 6 76
13 Baner Gwlad Groeg  Gwlad Groeg Groeg Giorgos Alkaios a Friends "OPA" (ΟΠΑ) 2 133
14 Baner Portiwgal  Portiwgal Portiwgaleg Filipa Azevedo "Há dias assim" Un o'r dyddiau hyn yw hyn 4 89
15 Baner Gogledd Macedonia  Gogledd Macedonia Macedoneg Gjoko Taneski "Jas ja imam silata" (Јас ја имам силата) Mae gennyf i'r cryfder 15 37
16 Baner Belarws  Belarws Saesneg 3+2 "Butterflies" Pili-palaod 9 59
17 Baner Gwlad yr Iâ  Gwlad yr Iâ Saesneg, Ffrangeg Hera Björk "Je ne sais quoi" Dwn i ddim beth 3 123

Yr Ail Rownd Gyn-derfynol

golygu
  • Cynhaliwyd yr ail rownd gyn-derfynol yn Oslo ar 27 Mai 2010.
  • Aeth y deg gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i'r rownd derfynol.
  • Pleidleisiodd Y Deyrnas Unedig a Norwy yn y rownd gyn-derfynol hon.
  • Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwodd i'r rownd derfynol.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01 Baner Lithwania  Lithwania Saesneg InCulto "East European Funk" Ffync Dwyrain Ewrop 12 44
02 Baner Armenia  Armenia Saesneg Eva Rivas "Apricot Stone" Carreg Bricyllen 6 83
03 Baner Israel  Israel Hebraeg Harel Skaat "Milim" (מילים) Geiriau 8 71
04 Baner Denmarc  Denmarc Saesneg Chanée a N'evergreen "In a Moment Like This" Mewn Moment Fel Hyn 5 101
05 Baner Y Swistir  Y Swistir Ffrangeg Michael von der Heide "Il pleut de l'or" Mae hi'n glawio aur 17 2
06 Baner Sweden  Sweden Saesneg Anna Bergendahl "This Is My Life" Fy Mywyd yw Hwn 11 62
07 Baner Aserbaijan  Aserbaijan Saesneg Safura Alizadeh "Drip Drop" 2 113
08 Baner Wcráin  Wcráin Saesneg Alyosha "Sweet People" Pobl Melys 7 77
09 Baner Yr Iseldiroedd  Yr Iseldiroedd Iseldireg Sieneke "Ik ben verliefd (Sha-la-lie)" Dwi mewn cariad (Sha-la-lie) 14 29
10 Baner Rwmania  Rwmania Saesneg Paula Seling ac Ovi "Playing With Fire" Chwarae â tân 4 104
11 Baner Slofenia  Slofenia Slofeneg Ansambel Roka Žlindre a Kalamari "Narodnozabavni rock" Roc gwerin poblogaidd 16 6
12 Baner Gweriniaeth Iwerddon  Iwerddon Saesneg Niamh Kavanagh "It's For You" I Di yw Hyn 9 67
13 Baner Bwlgaria  Bwlgaria Bwlgareg Miro "Angel si ti" (Ангел си ти) Angel wyt ti 15 19
14 Baner Cyprus  Cyprus Saesneg Jon Lilygreen a The Islanders "Life Looks Better in Spring" Mae Bywyd yn Ymddangos yn Well yn y Gwanwyn 10 67
15 Baner Croatia  Croatia Croateg Feminnem "Lako je sve" Hawdd yw popeth 13 33
16 Baner Georgia  Georgia Saesneg Sopho Nizharadze "Shine" Sgleiniwch 3 106
17 Baner Twrci  Twrci Saesneg maNga "We Could Be The Same" Gallem yr un 1 118

Y Rownd Derfynol

golygu
  • Y "Pedwar Mawr" (Ffrainc, yr Almaen, Sbaen a'r Deyrnas Unedig).
  • Y wlad a oedd yn cynnal y gystadleuaeth, Norwy.
  • Yr ugain gwlad a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau ffôn a'r pleidleisiau'r rheithgorau yn y rowndiau cyn-derfynol.
  • Dewiswyd yr enillwr trwy gyfuniad o bleidleisiau ffôn a phleidleisiau rheithgorau proffesiynol.
  • Gallai'r gynulleidfa wedi pleidlesio'n ystod y perfformiadau a 15 munud ar ôl y perfformiadau hefyd.
  • Dengys y wlad a enillodd y gystadleuaeth mewn lliw peach.
O'r het Gwlad Iaith Artist Cân Cyfieithad Cymraeg Safle Pwyntiau
01 Baner Aserbaijan  Aserbaijan Saesneg Safura Alizadeh "Drip Drop" 5 145
02[A] Baner Sbaen  Sbaen Sbaeneg Daniel Diges "Algo Pequeñito" Rhywbeth Bach 15 68
03 Baner Norwy  Norwy Saesneg Didrik Solli-Tangen "My Heart Is Yours" Mae Fy Nghalon yn Perthyn I Di 20 35
04 Baner Moldofa  Moldofa Saesneg SunStroke Project ac Olia Tira "Run Away" Rhedeg i Ffwrdd 22 27
05 Baner Cyprus  Cyprus Saesneg Jon Lilygreen a The Islanders "Life Looks Better in Spring" Mae Bywyd yn Ymddangos yn Well yn y Gwanwyn 21 27
06 Baner Bosnia a Hercegovina  Bosnia-Hertsegofina Saesneg Vukašin Brajić "Thunder and Lightning" Taran a Mellt 17 51
07 Baner Gwlad Belg  Gwlad Belg Saesneg Tom Dice "Me and My Guitar" Fi a'm Gitâr 6 143
08 Baner Serbia  Serbia Serbeg Milan Stanković "Ovo je Balkan" (Oво je Балкан) Dyma'r Balcannau 13 72
09 Baner Belarws  Belarws Saesneg 3+2 "Butterflies" Pili-palaod 24 18
10 Baner Gweriniaeth Iwerddon  Iwerddon Saesneg Niamh Kavanagh "It's For You" I Di yw Hyn 23 25
11 Baner Gwlad Groeg  Gwlad Groeg Groeg Giorgos Alkaios a Friends "OPA" (ΟΠΑ) 8 140
12 Baner Prydain Fawr  Deyrnas Unedig Saesneg Josh Dubovie "That Sounds Good to Me" Mae Hynny'n Swio'n Dda I Mi 25 10
13 Baner Georgia  Georgia Saesneg Sopho Nizharadze "Shine" Sgleiniwch 9 136
14 Baner Twrci  Twrci Saesneg maNga "We Could Be The Same" Gallem yr un 2 170
15 Baner Albania  Albania Saesneg Juliana Pasha "It's All About You" Mae'n Amdanoch Chi 16 62
16 Baner Gwlad yr Iâ  Gwlad yr Iâ Saesneg, Ffrangeg Hera Björk "Je ne sais quoi" Dwn i ddim beth 19 41
17 Baner Wcráin  Wcráin Saesneg Alyosha "Sweet People" Pobl Melys 10 108
18 Baner Ffrainc  Ffrainc Ffrangeg Jessy Matador "Allez Ola" 12 82
19 Baner Rwmania  Rwmania Saesneg Paula Seling ac Ovi "Playing With Fire" Chwarae â tân 3 162
20 Baner Rwsia  Rwsia Saesneg Peter Nalitch Band "Lost and Forgotten" Ar Goll ac Anghofiwyd 11 90
21 Baner Armenia  Armenia Saesneg Eva Rivas "Apricot Stone" Carreg Bricyllen 7 141
22 Baner Yr Almaen  Yr Almaen Saesneg Lena "Satellite" Lloeren 1 246
23 Baner Portiwgal  Portiwgal Portiwgaleg Filipa Azevedo "Há dias assim" Un o'r dyddiau hyn yw hyn 18 43
24 Baner Israel  Israel Hebraeg Harel Skaat "Milim" (מילים) Geiriau 14 71
25 Baner Denmarc  Denmarc Saesneg Chanée a N'evergreen "In a Moment Like This" Mewn Moment Fel Hyn 4 149
  • A ^ Perfformiodd Sbaen ddwywaith (perfformiwyd eto ar ôl Denmarc) oherwydd i Jimmy Jump ddringo i'r llwyfan i gyd-ddawnsio gyda'r artistiaid yn ystod y perfformiad cyntaf.

Pleidleisio'n ystod y rownd derfynol

golygu

Cyhoeddwyd pleidleisiau'r gwledydd yn y drefn canlynol:[11]

  1. Baner Rwmania  Rwmania
  2. Baner Gweriniaeth Iwerddon  Iwerddon
  3. Baner Yr Almaen  Yr Almaen
  4. Baner Serbia  Serbia
  5. Baner Albania  Albania
  6. Baner Twrci  Twrci
  7. Baner Croatia  Croatia
  8. Baner Gwlad Pwyl  Gwlad Pwyl
  9. Baner Bosnia a Hercegovina  Bosnia a Hercegovina
  10. Baner Y Ffindir  Y Ffindir
  11. Baner Slofenia  Slofenia
  12. Baner Estonia  Estonia
  13. Baner Rwsia  Rwsia

  1. Baner Portiwgal  Portiwgal
  2. Baner Aserbaijan  Aserbaijan
  3. Baner Gwlad Groeg  Gwlad Groeg
  4. Baner Gwlad yr Iâ  Gwlad yr Iâ
  5. Baner Denmarc  Denmarc
  6. Baner Ffrainc  Ffrainc
  7. Baner Sbaen  Sbaen
  8. Baner Slofacia  Slofacia
  9. Baner Bwlgaria  Bwlgaria
  10. Baner Wcráin  Wcráin
  11. Baner Latfia  Latfia
  12. Baner Malta  Malta
  13. Baner Norwy  Norwy

  1. Baner Cyprus  Cyprus
  2. Baner Lithwania  Lithwania
  3. Baner Belarws  Belarws
  4. Baner Y Swistir  Y Swistir
  5. Baner Gwlad Belg  Gwlad Belg
  6. Baner Prydain Fawr  Deyrnas Unedig
  7. Baner Yr Iseldiroedd  Yr Iseldiroedd
  8. Baner Israel  Israel
  9. Baner Gogledd Macedonia  Gogledd Macedonia
  10. Baner Moldofa  Moldofa
  11. Baner Georgia  Georgia
  12. Baner Sweden  Sweden
  13. Baner Armenia  Armenia

Sylwebwyr

golygu

Ciliadau

golygu
Gwlad Nodiadau
Baner Andorra  Andorra Mae darlledwr Andorra wedi cael cwtogiadau yn eu cyllidebau o tua 10%. O achos hyn, ni fydd Andorra yn cyfranogi.
Baner Awstria  Awstria [12]
Baner Gweriniaeth Tsiec  Gweriniaeth Tsiec [13]
Baner Hwngari  Hwngari
Baner Liechtenstein  Liechtenstein Mae Liechtenstein yn ceisio ymuno â'r UDE a bydd y wlad yn cystadlu pan fydd hi'n aelod, mwy na thebyg yn 2011/2012. Mae hi'n barod i ddechrau cystadlu gyda chystadleuaeth cenedlaethol sy'n debyg i'r sioe Almaenaidd Deutschland sucht den Superstar.
Baner Lwcsembwrg  Lwcsembwrg [14]
Baner Monaco  Monaco [15]
Baner Montenegro  Montenegro
Baner San Marino  San Marino [16]

Darllediadau

golygu
Gwlad Nodiadau
Baner Awstralia  Awstralia Ni all Awstralia'n gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Special Broadcasting Service (SBS) yn darlledu'r gystadleuaeth.[17]
Baner Seland Newydd  Seland Newydd Ni all Seland Newydd gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Triangle TV yn darlledu'r gystadleuaeth ar ei sianel lloeren STRATOS.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Nadia, Haddy and Erik to host 2010 Eurovision Song Contest
  2. "Eurovision Song Contest 2010 dates confirmed" Archifwyd 2009-05-29 yn y Peiriant Wayback, ESCToday.com, 2009-05-27. Adalwyd ar 2009-05-27.
  3. EBU working for Eurovision full house in 2010
  4. EBU and Eurovision.tv press-conference
  5. Breaking news: Fornebu Arena to host Oslo 2010
  6. "The ship sets sail". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 2009-05-29.
  7. NRK estimates cost of Eurovision Song Contest at 24 mill. Euro
  8. Oslo 2010 theme revealed: Share The Moment
  9. NRK presents Eurovision stage to the press
  10. Hun eller han må se bra ut
  11. "Live: Draw of the running order". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-08. Cyrchwyd 2010-04-13.
  12. "Confirmed: Austria will not take part in 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2009-10-02.
  13. "Czech Republic withdraws from Eurovision". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-23. Cyrchwyd 2009-07-23.
  14. "RTL suddenly decided; not going to Oslo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
  15. "TMC not coming back for 2010 Eurovision edition". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-06. Cyrchwyd 2009-10-02.
  16. News Eurovision Russia 2009
  17. SBS and Triangle Stratos tv Australia & New Zealand: Eurovision 2010 down under Archifwyd 2010-02-26 yn y Peiriant Wayback, ESCToday