Montenegro
Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan Môr Adria yw Gweriniaeth Montenegro neu Montenegro. Mae'n ffinio ag Albania i'r de-ddwyrain, Serbia (gan gynnwys Kosovo) i'r gogledd-ddwyrain, Bosnia-Hertsegofina i'r gogledd-orllewin a Croatia i'r gorllewin. Roedd Montenegro yn rhan o Serbia a Montenegro o 2003 i 2006. Ei phrifddinas (a'i dinas mwyaf o ran maint) yw Podgorica ac mae Cetinje yn cael ei nodi fel Prijestonica (Пријестоница), sef Dinas Frenhinol.[1].
Republika Crna Gora | |
Arwyddair | Harddwch gwyllt |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, gwladwriaeth olynol |
Enwyd ar ôl | Lovćen |
Prifddinas | Podgorica |
Poblogaeth | 617,213 |
Sefydlwyd | |
Anthem | O! Wawr Lachar Mai |
Pennaeth llywodraeth | Milojko Spajić |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Montenegreg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia, De Ewrop |
Arwynebedd | 13,812 ±1 km² |
Gerllaw | Môr Adria, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Bosnia a Hertsegofina, Serbia, Albania, Croatia, yr Undeb Ewropeaidd, Cosofo |
Cyfesurynnau | 42.76667°N 19.21667°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Montenegro |
Corff deddfwriaethol | Senedd Montenegro |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Montenegro |
Pennaeth y wladwriaeth | Jakov Milatović |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Montenegro |
Pennaeth y Llywodraeth | Milojko Spajić |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $5,861 million, $6,096 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 19 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.689 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.832 |
Mae Montenegro'n aelod llawn o'r Cenhedloedd Unedig ac ar y rhestr aros am aelodaeth lawn o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.
Daearyddiaeth
golygu
Ffinia gyda'r gwledydd canlynol: Croatia, Bosnia-Hertsegofina, Serbia, ac Albania.
Dyma rai o ddinasoedd a threfi mwyaf y wlad:
- Podgorica (prifddinas; 136,473 o bobl)
- Nikšić (58,212)
- Pljevlja (21,377)
- Bijelo Polje (15,883)
- Cetinje (prifddinas brenhinol; 15,137)
- Bar (13,719)
- Herceg Novi (12,739)
- Berane (11,776)
Mynyddoedd garw ydy nodwedd amlycaf ei ffin gyda Serbia ac Albania a cheir y pegwn arall hefyd - gwastatir arfordirol milltir i bedair milltir o ran hyd gyda Mount Lovćen a Mount Orjen yn torri'r undonedd gan ddisgyn yn serth i Fae Kotor.
- Traeth hiraf: Velika Plaža, Ulcinj sy'n 13,000 metr (8 milltir)
- Copa Uchaf: Zla Kolata, Prokletije sy'n 2,534 m
- Llyn hiraf: Llyn Skadar — 391 km² (151 milltir sgwar) o arwynebedd
- Ceunant tyfnaf: Ceunant Afon Tara — 1,300 m (4,265 troedfedd)
- Bae mwyaf: Bae Kotor
- Parc Cenedlaethol: Durmitor — 390 km² (150 milltir sgwar), Lovćen — 64 km² (25 milltir sgwar), Biogradska Gora — 54 km² (21 milltir sgwar), Skadar Lake — 400 km² (154 milltir sgwar)
- Safle Treftadaeth y Byd: Durmitor a Ceunant Afon Tara, ynghyd â hen ddinas Kotor.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Montenegro
Gwleidyddiaeth
golyguDiwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Montenegro
Chwaraeon
golygu- Prif: Chwaraeon Montenegro
Pêl-droed
golyguMae gan Montenegro Gymdeithas Bêl-droed sy'n gyfrifol am y tîm cenedlaethol a'r "Prva Liga" sef Uwch Gynghrair Montenegro.
Economi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Prif ddata ar Montenegro". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-20. Cyrchwyd 2009-05-31.