[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Torch

Oddi ar Wicipedia
Torch Celtaidd (adgynhyrchiad modern o hen dorch)

Cylch o ddeunydd yw torch, metel fel rheol, wedi'i blethu (yn arbennig fel addurn). Daw'r gair o'r gair Lladin torque ("peth wedi'i blethu").

Defnyddid torchau gan sawl pobl yn Ewrop o Oes yr Efydd ymlaen fel addurnau personol a hefyd i ddynodi statws. Roeddent yn arbennig o nodweddiadol o ddiwylliant y Celtiaid ond ceir enghreifftiau hefyd mewn beddroddau Slafaidd mor bell i ffwrdd â Rwsia ac Wcrain.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.