William Morris (1889-1979)
Gwedd
William Morris | |
---|---|
William Morris (dde) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958 | |
Ganwyd | 1889 |
Bu farw | 1979 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Morris.
Bardd ac awdur Cymraeg oedd William Morris (1889 - 1979). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd 1934 gyda'r awdl Ogof Arthur. Bu'n Archdderwydd o 1957 hyd 1959.
Roedd yn frodor o Flaenau Ffestiniog, Meirionnydd, Gwynedd ond truliodd ei flynyddoedd olaf yng Nghaernarfon.
Roedd yn gyfaill i Hedd Wyn ac mae'n ymddangos fel cymeriad yn y ffilm Gymraeg a enwebwyd am Oscar yn 1994, Hedd Wyn (ffilm).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Clychau Gwynedd (Gwasg Aberystwyth, 1946)
- Sgwrs a Phennill (1950)
- Atgof a Phrofiad (1961)
- Oriau Difyr a Dwys (1963)
- Cwmni'r Pererin (1967)
- Hedd Wyn (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1969)
- Crist y Bardd (Darlith Davies) (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1975)
- Canu Oes, gol. Glennys Roberts (Gwasg Gwynedd, 1981)