Rhestr o Siroedd Massachusetts
Dyma restr o'r 14 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Massachusetts yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
[golygu | golygu cod]FIPS
[golygu | golygu cod]Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Maine yw 23, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 25XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir |
Cod FIPS [3] | Canolfan weinyddol[4][5] | Sefydlu[5] | Tarddiad[4] | Etymoleg[6] | Poblogaeth[5] | Maint[5] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Barnstable County | 001 | Barnstable | 1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth | Ar ôl ei ganolfan weinyddol, Barnstable, a enwir yn ei dro ar ôl y dref Seisnig Barnstaple | 215,888 | ( 1,026 km2) |
396 sq mi|
Berkshire County | 003 | Pittsfield | 1761 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth yn 2000.[7] | Ar ôl y sir Seisnig Berkshire | 131,219 | ( 2,411 km2) |
931 sq mi|
Bristol County | 005 | Taunton | 1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth | Ar ôl ei ganolfan weinyddol wreiddiol, Bristol, Massachusetts, a enwyd yn ei dro ar ôl dinas Bryste, Lloegr pan ymunodd Tref Bristol â Rhode Island, cadwyd enw'r sir | 548,285 | ( 1,440 km2) |
556 sq mi|
Dukes County | 007 | Edgartown | 1695 | O Martha's Vineyard ac Elizabeth Islands, a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691 | Yn rhan o Dukes County, Efrog Newydd hyd 1691, bu'r tir, ar y pryd, yn eiddo i ddugaeth Efrog ym Mhendefigaeth Lloegr | 16,535 | ( 269 km2) |
104 sq mi|
Essex County | 009 | Salem, Lawrence |
1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Essex | 743,159 | ( 1,290 km2) |
498 sq mi|
Franklin County | 011 | Greenfield | 1811 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] | Er anrhydedd i Benjamin Franklin (1706–1790), gwyddonydd, diplomydd a gwleidydd Americanaidd cynnar. | 71,372 | ( 1,818 km2) |
702 sq mi|
Hampden County | 013 | Springfield | 1812 | O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] | John Hampden (1595—1643), seneddwr enwog Seisnig o'r 17eg ganrif | 463,490 | ( 1,601 km2) |
618 sq mi|
Hampshire County | 015 | Northampton | 1662 | O drefedigaeth heb ei threfnu yn rhan orllewinol Tiriogaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Hampshire | 158,080 | ( 1,370 km2) |
529 sq mi|
Middlesex County | 017 | Lowell, Cambridge |
1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Middlesex | 1,503,085 | ( 2,134 km2) |
824 sq mi|
Nantucket County | 019 | Nantucket | 1695 | O Nantucket Island a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691. | Tref Nantucket, a enwyd yn ei dro o air y llwyth brodorol Wampanoag am "le heddychlon" | 10,172 | ( 124 km2) |
48 sq mi|
Norfolk County | 021 | Dedham | 1793 | O ran o Suffolk County. | Ar ôl y sir Seisnig, Norfolk | 670,850 | ( 1,036 km2) |
400 sq mi|
Plymouth County | 023 | Brockton, Plymouth |
1685 | Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth. | Ar ôl ei ganolfan weinyddol Plymouth, a enwyd yn ei dro ar ôl Plymouth, Lloegr | 494,919 | ( 1,712 km2) |
661 sq mi|
Suffolk County | 025 | Boston | 1643 | Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] | Ar ôl y sir Seisnig, Suffolk | 722,023 | ( 150 km2) |
58 sq mi|
Worcester County | 027 | Worcester | 1731 | O rannau o Hampshire County, Middlesex County a Suffolk County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] | Ar ôl ei thref sirol Worcester, sydd wedi ei henwi ar ôl ddinas Caerwrangon, Lloegr a Brwydr Caerwrangon yn Rhyfel Cartref Lloegr lle fu ochr y Seneddwyr yn fuddugol | 798,552 | ( 3,919 km2) |
1,513 sq mi
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae gan Massachusetts 14 sir. Diddymodd Massachusetts llywodraethau lleol wyth [7] o'i 14 sir rhwng 1997 a 2000, ond mae'r siroedd yn rhan dde-ddwyreiniol y wladwriaeth yn cadw llywodraeth leol ar lefel sirol (Barnstable, Bristol, Dukes, Norfolk, Plymouth) ac yn un achos, (Nantucket County) llywodraeth sir a thref gyfunol. [4] Mae ardaloedd barnwrol a gorfodaeth cyfraith ddinesig yn dal i ddilyn ffiniau'r siroedd hyd yn oed yn y siroedd y mae eu llywodraeth ar lefel sirol wedi'u diddymu, ac mae'r siroedd yn dal i gael eu cydnabod yn gyffredinol fel endidau daearyddol er nad ydynt bellach yn rhai gwleidyddol, ynghyd â pharhau i ddarparu ffiniau daearyddol ar gyfer rhybuddion y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol. Mae tair sir (Hampshire, Barnstable, a Franklin) wedi ffurfio compactau sirol rhanbarthol newydd i wasanaethu fel math o lywodraeth ranbarthol.
Oherwydd camreoli ysbyty cyhoeddus Middlesex County yng nghanol y 1990au bu'r sir ar drothwy methdaliad. Ym 1997 cymerodd y llywodraeth daleithiol cyfrifoldeb am holl asedau a rhwymedigaethau'r sir er mwyn achub y sir o'i drafferthion ariannol. Diddymwyd llywodraeth Middlesex County yn swyddogol ar 11 Gorffennaf, 1997. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pleidleisiodd Comisiwn Franklin County i ddod a'i lywodraeth i ben. Roedd y ddeddf i ddiddymu llywodraeth Middlesex County hefyd yn darparu ar gyfer diddymu Hampden County a Worcester County ar 1 Gorffennaf, 1998. Diwygiwyd y ddeddf yn ddiweddarach i ddiddymu Hampshire County ar 1 Ionawr, 1999; Essex County a Suffolk County ar 1 Gorffennaf yr un flwyddyn; a Berkshire County ar 1 Gorffennaf , 2000. Mae Pennod 34B o Gyfreithiau Cyffredinol Massachusetts yn caniatáu i siroedd eraill naill ai ddiddymu eu hunain, neu i ad-drefnu fel "cyngor llywodraeth ranbarthol", fel y mae Siroedd Hampshire a Franklin wedi'i wneud. Mae llywodraethau siroedd Bryste, Plymouth a Norfolk wedi aros yn sylweddol ddigyfnewid. Mae Siroedd Barnstable a Dukes wedi mabwysiadu siarteri sir fodern, gan eu galluogi i weithredu fel llywodraethau rhanbarthol effeithlon. Mae gan Dukes County yn benodol asiantaeth gynllunio ranbarthol gref o'r enw Comisiwn Martha's Vineyard.[8]
Enwir mwyafrif siroedd Massachusetts ar ôl lleoedd yn Lloegr, gan adlewyrchu treftadaeth drefedigaethol Massachusetts.[6]
"Tref sirol" yw'r term statudol ar gyfer unrhyw dref yn Massachusetts sydd â llys sirol a swyddfeydd gweinyddol; gall sir gael trefi sirol lluosog. [4] "Sedd y sir" yw'r term safonol a ddefnyddir mewn cyfathrebiadau cyffredinol gan lywodraeth Massachusetts.
Cyn siroedd
[golygu | golygu cod]Sir |
Creu [4] |
Diddymu [4] |
Tynged [4] |
---|---|---|---|
Cumberland County | 1760 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Devonshire County | 1674 | 1675 | Diddymwyd a'i throsglwyddwyd ei thiroedd i Maine |
Hancock County | 1789 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Kennebec County | 1799 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Lincoln County | 1760 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Norfolk County | 1643 | 1679 | Diddymwyd - ymgorfforwyd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth i fewn i New Hampshire; un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Massachusetts Bay. |
Oxford County | 1805 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Penobscot County | 1816 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Somerset County | 1809 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
Washington County | 1789 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine |
York County | 1652 | 1820 | Trosglwyddwyd i Maine – Roedd dwy gyfnod pan ddiddymwyd York Conty, 1664 i 1668 a 1680 i 1691 |
Map dwysedd poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "EPA County FIPS Code Listing". EPA.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 2008-02-23.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Brown, Richard & Tager, Jack (2000). Massachusetts: A Concise History. University of Massachusetts Press. ISBN 1-55849-249-6.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "NACo – Find a county". National Association of Counties. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-01. Cyrchwyd 20 Ebrill 2020.
- ↑ 6.0 6.1 Michael A. Beatty, County name origins of the United States (McFarland Press, 2001). Adalwyd 24 Ebrill 2020
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7 7.8 Historical Data Relating to the Incorporation of and Abolishment of Counties in the Commonwealth of Massachusetts adalwyd 24 Ebrill 2020
- ↑ Gwefan Comisiwn Martha's Vineyard adalwyd 24 Ebrill 2020
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD