Rhestr o Siroedd Georgia (talaith UDA)
Dyma restr o'r 159 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor: [1]
Rhestr
[golygu | golygu cod]- Appling County
- Atkinson County
- Bacon County
- Baker County
- Baldwin County
- Banks County
- Barrow County
- Bartow County
- Ben Hill County
- Berrien County
- Bibb County
- Bleckley County
- Brantley County
- Brooks County
- Bryan County
- Bulloch County
- Burke County
- Butts County
- Calhoun County
- Camden County
- Candler County
- Carroll County
- Catoosa County
- Charlton County
- Chatham County
- Chattahoochee County
- Chattooga County
- Cherokee County
- Clarke County
- Clay County
- Clayton County
- Clinch County
- Cobb County
- Coffee County
- Colquitt County
- Columbia County
- Cook County
- Coweta County
- Crawford County
- Crisp County
- Dade County
- Dawson County
- Decatur County
- DeKalb County
- Dodge County
- Dooly County
- Dougherty County
- Douglas County
- Early County
- Echols County
- Effingham County
- Elbert County
- Emanuel County
- Evans County
- Fannin County
- Fayette County
- Floyd County
- Forsyth County
- Franklin County
- Fulton County
- Gilmer County
- Glascock County
- Glynn County
- Gordon County
- Grady County
- Greene County
- Gwinnett County
- Habersham County
- Hall County
- Hancock County
- Haralson County
- Harris County
- Hart County
- Heard County
- Henry County
- Houston County
- Irwin County
- Jackson County
- Jasper County
- Jeff Davis County
- Jefferson County
- Jenkins County
- Johnson County
- Jones County
- Lamar County
- Lanier County
- Laurens County
- Lee County
- Liberty County
- Lincoln County
- Long County
- Lowndes County
- Lumpkin County
- McDuffie County
- McIntosh County
- Macon County
- Madison County
- Marion County
- Meriwether County
- Miller County
- Mitchell County
- Monroe County
- Montgomery County
- Morgan County
- Murray County
- Muscogee County
- Newton County
- Oconee County
- Oglethorpe County
- Paulding County
- Peach County
- Pickens County
- Pierce County
- Pike County
- Polk County
- Pulaski County
- Putnam County
- Quitman County
- Rabun County
- Randolph County
- Richmond County
- Rockdale County
- Schley County
- Screven County
- Seminole County
- Spalding County
- Stephens County
- Stewart County
- Sumter County
- Talbot County
- Taliaferro County
- Tattnall County
- Taylor County
- Telfair County
- Terrell County
- Thomas County
- Tift County
- Toombs County
- Towns County
- Treutlen County
- Troup County
- Turner County
- Twiggs County
- Union County
- Upson County
- Walker County
- Walton County
- Ware County
- Warren County
- Washington County
- Wayne County
- Webster County
- Wheeler County
- White County
- Whitfield County
- Wilcox County
- Wilkes County
- Wilkinson County
- Worth County
Cefndir
[golygu | golygu cod]Rhennir talaith Georgia yn 159 sir, sef mwy nag unrhyw dalaith arall heblaw am Texas, sydd â 254 o siroedd. O dan Gyfansoddiad Talaith Georgia, rhoddir hunain lywodraeth i'w holl siroedd i ddelio â phroblemau sy'n lleol iddynt hwy yn unig. Hefyd, mae wyth sir gyfunol sydd yn siroedd a hefyd yn awdurdodau dinas: Athens-Clarke County, Augusta-Richmond County, Columbus-Muscogee County, Georgetown-Quitman County, Statenville-Echols County, Macon-Bibb County, Cusseta-Chattahoochee County, a Preston-Webster County.
Hanes
[golygu | golygu cod]Rhwng 1732 a 1758, ardaloedd a threfi oedd y mân adrannau sifil yn Georgia. Ym 1758, rhannwyd Talaith Georgia yn wyth plwyf, a rhannwyd pedwar plwyf arall ym 1765; ym 1777, crëwyd wyth sir wreiddiol y dalaith. Y rhain oedd Burke, Camden, Chatham, Effingham, Glynn, Liberty, Richmond, a Wilkes, pob un wedi'i greu ar 5 Chwefror, 1777.
Mae gan Georgia'r ail nifer fwyaf o siroedd o unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau. [1] Yn ôl traddodiad y rheswm dros greu a lleoli cymaint o siroedd yn Georgia oedd y dylai pobl cefn gwlad gallu teithio i'r dref neu ddinas y sedd sirol gyfreithiol, ac yn ôl adref, mewn un diwrnod ar gefn ceffyl neu mewn wagen. Fodd bynnag, crëwyd tua 25 sir yn Georgia yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, ar ôl i'r defnydd o'r rheilffordd, ceir, tryc a bws ddod yn bosibl. Oherwydd y System Uned Sirol, a ddatganwyd yn ddiweddarach i fod yn anghyfansoddiadol, roedd gan y siroedd newydd, peth bynnag fo'i phoblogaeth o leiaf un cynrychiolydd yn senedd y dalaith, gan gadw grym gwleidyddol mewn ardaloedd gwledig. [2] Y sir newydd olaf i gael ei sefydlu yn Georgia oedd Peach County, a sefydlwyd ym 1924. [3]
Arweiniodd nifer fawr y siroedd yn Georgia at sawl gwelliant i gyfansoddiadol y dalaith i geisio sefydlu terfyn ar nifer y siroedd yn y dalaeth. Cyfyngodd y diwygiad diweddaraf o'r fath, a gadarnhawyd ym 1945, y nifer i 159 o siroedd, er y bu 161 o siroedd rhwng 1924 a 1931. Mewn cydgrynhoad siroedd, atodwyd Campbell County a Milton County i Fulton County ym 1932 am resymau ariannol. Daeth yr uno yn ystod y Dirwasgiad Mawr, gan fod y ddwy lywodraeth sir a unwyd i Fulton County ar fin meth dalu. Mae Fulton County yn cynnwys dinas Atlanta, a chredid y byddai refeniw treth Atlanta a'i maestrefi yn helpu i gefnogi ardaloedd gwledig y siroedd a daeth i ben, a oedd ag ychydig iawn o incwm treth eu hunain - yn bennaf o drethi eiddo ar ffermydd a choedwigoedd, a doedd hynny ddim yn codi llawer o arian.
Georgia yw'r unig dalaith sy'n dal i ganiatáu llywodraeth sir gan un comisiynydd. Ar hyn o bryd, mae naw o 159 sir y dalaith yn gweithredu o dan y system honno.
Newid enwau siroedd
[golygu | golygu cod]Mae enwau ychydig o siroedd Georgia wedi newid. Yn wreiddiol, enwyd Jasper County yn " Randolph County". Yn ddiweddarach, sefydlwyd y Randolph County cyfredol. Ar un adeg, enwyd Webster County yn "Kinchafoonee County", ac enw gwreiddiol Bartow County oedd "Cass County".
Cyn siroedd
[golygu | golygu cod]- Roedd St. George, St. Mary's, St. Thomas, St. Phillip, Christ Church, St. David, St. Matthews, St. Andrew, St. James, St. Johns, a St. Paul oll yn blwyfi a diddymwyd ym 1777 wrth sefydlu'r system sirol
- Bourbon County (1785-1788): Wedi'i ffurfio o diroedd llwyth yr Yazoo a oedd yn destun anghydfod ar y pryd. Mae'r tir yn Nhalaith Mississippi heddiw.
- Campbell County (1828-1932): Wedi'i ffurfio o siroedd Carroll a Coweta ym 1828, daeth hanner i'r gogledd-orllewin afon Chattahoochee yn Douglas County ym 1870, unwyd y gweddill Fulton County ym 1932.
- Milton County (1857-1932): Ffurfiwyd allan o ogledd-ddwyrain Cobb County, de-ddwyrain Cherokee County a de-orllewin Forsyth County ym 1857, cafodd ei grynhoi yn rhan o Fulton County ym 1932.
- Bu unwaith Walton County yn Georgia, a oedd wedi'i lleoli yn yr hyn sydd bellach yn dalaith Gogledd Carolina. Ymladdwyd ysgarmes fer, Rhyfel Walton, rhwng Gogledd Carolina a Georgia ym 1810, cyn i Georgia ildio’i honiad i berchenogaeth o'r ardal ar ôl arolwg Ellicott Rock ym 1811
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Hellmann, Paul T. (2006-02-14). Historical Gazetteer of the United States. Routledge. tt. 215–253. ISBN 978-1-135-94859-7.
- ↑ "Why Ga. Has The Second Highest Number Of Counties In The US". 90.1 FM WABE. 2016-04-04. Cyrchwyd 2020-04-21.
- ↑ "History - A Brief History of Georgia Counties - GeorgiaInfo". georgiainfo.galileo.usg.edu. Cyrchwyd 2020-04-21.
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD