[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Prifysgol Michigan

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Michigan
ArwyddairArtes, Scientia, Veritas Edit this on Wikidata
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus, sefydliad addysg cyhoeddus yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Awst 1817 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAnn Arbor Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau42.2769°N 83.7381°W Edit this on Wikidata
Cod post48109 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganGabriel Richard Edit this on Wikidata

Prifysgol daleithiol Michigan yw Prifysgol Michigan (Saesneg: University of Michigan; UM, U-M, U of M, neu UMich) a leolir yn ninas Ann Arbor, Michigan, Unol Daleithiau America. Sefydlwyd ar ffurf y Catholepistemiad, neu Brifysgol Michigania, yn Detroit, Tiriogaeth Michigan, ym 1817, ugain mlynedd cyn i Michigan gael ei derbyn yn dalaith gan yr undeb. Symudodd yr ysgol i Ann Arbor ym 1837 ar safle 40 acr (16 ha) a elwir bellach yn y Campws Canolog. Ers ei sefydlu yn Ann Arbor, mae prif gampws y brifysgol wedi ehangu i gynnwys mwy na 584 o brif adeiladau a chyfanswm arwynebedd o 34 million gross troedfedd sgwar (780 acr; 3.2 km2) ar draws y Campws Canolog a Champws y Gogledd, dau gampws rhanbarthol yn ninasoedd cyfagos Flint (agorwyd 1956) a Dearborn (agorwyd 1959), a chanolfan allanol yn Detroit. Mae Prifysgol Michigan yn un o aelod-sefydlwyr y Gymdeithas Prifysgolion Americanaidd.

Prifysgol Michigan yw un o brifysgolion ymchwil blaenaf yr Unol Daleithiau a chanddi wariant blynyddol ar ymchwil sydd bron $1.5 biliwn,[1][2] ac mae wedi ei rhestru ymhlith dosbarth "R1: Prifysgolion Doethurol - Gweithgarwch ymchwil uchel iawn" yn ôl Dosbarthiad Carnegie.[3] Yn niwedd 2019, roedd 25 o enillwyr Gwobrau Nobel, 6 o enillwyr Gwobr Turing, ac un enillydd Medal Fields yn gyn-fyfyrwyr, academyddion, neu fel arall yn gysylltiedig â Phrifysgol Michigan. Mae rhaglen ôl-raddedig y brifysgol yn cynnig doethuriaethau yn y dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, a meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, yn ogystal â graddau proffesiynol mewn pensaernïaeth, busnes, meddygaeth, y gyfraith, fferylliaeth, nyrsio, gwaith cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, a deintyddiaeth. Mae mwy na 540,000 o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Michigan yn fyw ar draws y byd, sef un o'r cyrff mwyaf ei faint o gyn-fyfyrwyr gan unrhyw sefydliad addysg uwch yn y byd.[4]

Mae timau athletaidd Prifysgol Michigan, a elwir y Wolverines, yn cystadlu yn Adran I yr NCAA (y Gymdeithas Athletaidd Golegol Genedlaethol) ac yn aelodau cynhadledd chwaraeon y Big Ten. Mae mwy na 250 o athletwyr a hyfforddwyr o Brifysgol Michigan wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd[5] ac wedi ennill mwy na 150 o fedalau.[6]

Y Diag, rhan o'r Campws Canolog, ym Medi 2010

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Slagter, Martin (7 Rhagfyr 2017). "University of Michigan spends 2nd most on research at $1.5 billion". The Ann Arbor News (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Ebrill 2020. The University of Michigan once again spent more on research than any public university in the country during the 2017 fiscal year with a record-breaking $1.48 billion in expenditures, according to UM's annual research report.…UM ranked second overall to only Johns Hopkins University among all United States universities in research expenditures.
  2. (Saesneg) University of Michigan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2020.
  3. (Saesneg) "University of Michigan Carnegie Classification". Prifysgol Indiana. 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-03. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
  4. (Saesneg) "Michigan Listed Among Ten Most Powerful Alumni Networks". Michigan Ross. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
  5. (Saesneg) Kinney, Greg (4 Chwefror 2020). "Michigan in the Olympics - Michigan Olympians by Sport". University of Michigan Athletics History. Bentley Historical Library. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.
  6. (Saesneg) Kinney, Greg (21 Awst 2016). "Michigan in the Olympics - University of Michigan Medalists". University of Michigan Athletics History. Bentley Historical Library. Cyrchwyd 8 Ebrill 2020.