Nafacho (pobl)
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Brodorion Gwreiddiol America yn UDA |
Mamiaith | Nafacho, saesneg |
Poblogaeth | 311,000 |
Crefydd | Eneidyddiaeth |
Gwefan | http://www.navajo-nsn.gov/index.htm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am bobl y Nafacho yw hon; ceir erthygl arall am y genedl-lwyth yma.
Y Nafacho (enwau eraill: Navajo, Navaho) yw'r mwyaf o ran poblogaeth o holl bobloedd brodorol Gogledd America. Eu henw arnynt yn (sef y Nafacho yw'r Diné ("Y bobl").
Mae tua 175,000 o Nafacho, yn byw yn bennaf yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, yn arbennig yn nhalaith Arizona ond gyda niferoedd sylweddol hefyd yn New Mexico, Utah a Colorado. Mae'r mwyafrif yn byw ar diroedd cadw (neu reservations) y Nafacho yn Arizona. Prifddinas y Nafacho yw Window Rock, Arizona.
Roedd y Nafacho, sy'n siarad iaith atabascaidd, yn wreiddiol o'r hyn sy'n awr yn Canada, ond symudodd y llwyth i'r de yn y cyfnod wedi'r 13g. Bu ymladd rhyngddynt a dynion gwynion a geisiodd ddwyn eu tiroedd, am rai blynyddoedd, cyn iddynt orfod ildio. Yn 1864 gorfodwyd y Nafacho i wneud Hirdaith y Nafacho i wersyll Bosque Redondo, a cheir cân am hyn gan Tecwyn Ifan.