Marc Dutroux
Gwedd
Marc Dutroux | |
---|---|
Ganwyd | Marc Paul Alain Dutroux 6 Tachwedd 1956 Ixelles |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | trydanwr |
Priod | Michelle Martin |
Llofrudd cyfresol o Wlad Belg yw Marc Dutroux (ganwyd 6 Tachwedd 1956).
Ym 1989 cafwyd yn euog o bum achos o ymosodiad rhywiol a dedfrydwyd i garchar am 13 mlynedd, ond cafodd ei ryddhau ar ôl tair mlynedd. O 1992 hyd 1996, cipiodd a threisiodd nifer o ferched. Cyhuddwyd yr heddlu o anwybyddu gwybodaeth a chyhuddiadau yn erbyn Dutroux. Ym 1996, chwiliwyd un o'i dai a chanfwyd dwy ferch yn eu harddegau wedi'u cadw mewn cell. Ychydig o ddyddiau'n hwyrach, cafodd dwy ferch arall, wyth mlwydd oed, eu canfod wedi'u claddu mewn un o'i dai arall. Yn 2004 cafwyd Dutroux yn euog o lofruddiaeth, herwgipio, a thrais rhywiol a dedfrydwyd i garchar am oes.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) John Philip Jenkins. Marc Dutroux. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.