[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

John Ogwen

Oddi ar Wicipedia
John Ogwen
GanwydJohn Ogwen Hughes
25 Ebrill 1944 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMaureen Rhys Edit this on Wikidata

Un o actorion mwyaf blaenllaw Cymru yw John Ogwen (ganwyd 25 Ebrill 1944).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganed John Ogwen Hughes yn Sling, ger Tregarth yn Nyffryn Ogwen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Dyffryn Ogwen lle bu'n aelod brwd o'r cwmni drama. Astudiodd Saesneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor.[1]

John Ogwen yn ymarfer y ddrama Cymru Fydd Cwmni Theatr Cymru 1967

Ar y diwrnod y cafodd ei radd o'r brifysgol, cynigodd Wilbert Lloyd Roberts swydd iddo gyda Cwmni Theatr Cymru, ac aeth yn syth i berfformio yn Eisteddfod y Bala yn 1967.

Aeth i Lundain am gyfnod, a chafodd glod am ei ran mewn cynhyrchiad o'r ddrama The Corn is Green gyda'r enillydd Oscar, Wendy Hiller. Wrth gofio am ei amser yn Llundain dywedodd "Roedd o'n brofiad eitha od, ond mi wnes i ei fwynhau o. Ond, yn y diwedd, mi wnes i a fy asiant gytuno mai adra' roeddwn i eisio bod. Mi wnaeth o ddeud 'You'll have to make up your mind whether you want to be a nationalist or an actor.' 'I'll be a bit of both' meddwn i."[2]

Daeth yn adnabyddus i gynulleidfa tu allan i Gymru drwy serennu fel Twm Siôn Cati yng nghyfres ddrama y BBC Hawkmoor yn 1978, straeon yn seiledig ar hanesion Twm. Ymddangosodd hefyd yn y gyfres The District Nurse a chwaraeodd rhan Bostock yn Revelation of the Daleks, stori Doctor Who o 1985.[3]

Ar deledu Cymraeg, ymddangosodd mewn cyfresi fel Minafon a Deryn.[4] Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu, cyflwyno cyfres o raglenni dogfen a chreu recordiadau llafar o weithiau Cymreig. Ef yw adroddwr stori y fersiwn Gymraeg o'r rhaglen deledu i blant Tomos y Tanc a'i Ffrindiau.

Yn 2004, derbyniodd wobr arbennig BAFTA Cymru am ei gyfraniad.[5]

Bu'n aelod blaenllaw o Gwmni Theatr Gwynedd o'r cychwyn ym 1986, gan ymddangos mewn nifer fawr o'u cynhyrchiadau megis Leni, O Law I Law, Y Cylch Sialc ac ail-lwyfaniad o Y Tŵr ym 1995. Cafodd hefyd y cyfle i addasu a chyfarwyddo nifer o'r cynyrchiadau.

Ymunodd â chast Pobol y Cwm yn Ebrill 2017 yn chwarae'r cymeriad Josh. Dyma'r tro cynta iddo ymddangos yn y gyfres ond ysgrifennodd nifer o benodau o'r opera sebon yn y blynyddoedd cynnar.[6]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd yr actores Maureen Rhys yn 1966, wedi'r ddau gyfarfod ym mhrifysgol Bangor.[7] Mae'r ddau wedi cydweithio'n aml. Mae ganddynt dri o blant ac maent yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.[8]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]

1960au

[golygu | golygu cod]

1970au

[golygu | golygu cod]

1980au

[golygu | golygu cod]

1990au

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Proffil John Ogwen. BBC Cymru.
  2. "John Ogwen: Bywgraffiad a Llyfryddiaeth | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2024-04-26.
  3. "BBC Radio Cymru - Aled Hughes, 100 Diwrnod tan yr Eisteddfod, John Ogwen, Bostok yn Doctor Who". BBC. 2023-04-27. Cyrchwyd 2024-04-26.
  4. "BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - John Ogwen". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-04-26.
  5.  Gwobrau 2004. BAFTA Cymru.
  6.  John Ogwen yn ymuno efo Pobol y Cwm. Y Cymro (22 Mawrth 2017).
  7. "John Ogwen a Maureen Rhys yn 80: Dathliad o fywyd a gyrfa". BBC Cymru Fyw. 2024-08-23. Cyrchwyd 2024-08-23.
  8.  Maureen O’Cwm?!. Caernarfon Online (19 Rhagfyr 2006). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011.
  9. Ogwen, John (1996). Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd. ISBN 0 86074 134 6.