Karl Jaspers
Karl Jaspers | |
---|---|
Karl Jaspers ym 1946. | |
Ganwyd | Karl Theodor Jaspers 23 Chwefror 1883 Oldenburg |
Bu farw | 26 Chwefror 1969 Basel |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Y Swistir |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, seiciatrydd, meddyg, diwinydd, academydd, llenor, seicolegydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Oes yr Echelin |
Priod | Gertrud Jaspers |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Goethe, Gwobr Erasmus, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Pour le Mérite, doctor honoris causa from the University of Paris |
Athronydd a seiciatrydd o'r Almaen oedd Karl Theodor Jaspers (23 Chwefror 1883 – 26 Chwefror 1969) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at seicopatholeg a'i athroniaeth a ystyrir yn ffurf ar ddirfodaeth, er na disgrifiai ei hun yn ddirfodwr. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar seicoleg, diwinyddiaeth, ac athroniaeth yn yr 20g.
Ganed ef yn Oldenburg yng ngogledd-orllewin Ymerodraeth yr Almaen, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Heidelberg yn bennaf cyn iddo gychwyn ar yrfa yn feddyg ac academydd. Gwasanaethodd yn feddyg milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, profiad a gafodd effaith bwysid ar ei feddwl. Wedi'r rhyfel, dychwelodd i Heidelberg i weithio'n seiciatrydd, a datblygodd ei ddull o ymdrin ag afiechyd meddwl trwy ddealltwriaeth empathig o brofiad y claf.
Canolbwyntia gweithiau cynnar Jaspers ar natur yr ymwybyddiaeth a'r cyfyngiadau ar wybodaeth ddynol. Yn ei gyfrol Psychologie der Weltanschauungen (1919), lluniai ei ddamcaniaeth o "sefyllfaoedd y terfyn", sef yr achlysuron mewn bywyd sydd yn gorfodi dyn i wynebu'r rhwystrau i'w ddealltwriaeth a phrofiad.
Diswyddwyd Jaspers o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Dychwelodd i Heidelberg ym 1945, a chafodd ran wrth ailadeiladu byd deallusol a thraddodiad athronyddol yng Ngorllewin yr Almaen wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Canolbwyntia gweithiau diweddar Jaspers ar y berthynas rhwng athroniaeth a ffydd, ac archwiliodd y posibiliad o drosgynnu gwybodaeth a phrofiad cyfyngedig y ddynolryw drwy gyfriniaeth. Symudodd yn ôl i'r Swistir ar ddiwedd ei oes, a bu farw Karl Jaspers yn Basel yn 86 oed.
Bywyd cynnar ac addysg (1883–1909)
[golygu | golygu cod]Ganed Karl Theodor Jaspers ar 23 Chwefror 1883 yn ninas Oldenburg, a oedd yn brifddinas i Uchel Ddugiaeth Oldenburg, un o daleithiau Ymerodraeth yr Almaen. Mab ydoedd i Karl Wilhelm Jaspers ac Henriette Tantzen, a disgynnodd ar ddwy ochr ei linach o werinwyr, marsiandïwyr, a gweinidogion a fu'n breswyl yng ngogledd yr Almaen ers sawl cenhedlaeth. Cyfreithiwr, cwnstabl, ac yn ddiweddarach banciwr oedd Karl yr hynaf. Bachgen gwan ac eiddil ydoedd, a datblygodd fronciectasis yn ystod ei arddegau. O ganlyniad, dioddefai o wendid y galon am weddill ei oes.[1]
Aeth Jaspers i Brifysgol Heidelberg ym 1901 i astudio cyfreitheg; symudodd i Brifysgol München ym 1902 i barhau â'i astudiaethau cyfreithiol, ond heb fawr o frwdfrydedd. Penderfynodd newid ei radd, a threuliodd y chwe mlynedd nesaf yn astudio meddygaeth ym mhrifysgolion Berlin, Göttingen, ac Heidelberg. Cyflawnodd ei arholiad i fod yn feddyg ym 1908, ac wedi iddo gwblhau ei draethawd estynedig, Heimweh und Verbrechen ("Hiraeth a Throsedd"), derbyniodd ei ddoethuriaeth feddygol o Brifysgol Heidelberg. Cafodd ei gofrestru yn feddyg yn Chwefror 1909, a gwirfoddolodd hefyd fel cynorthwy-ydd ymchwil mewn clinig seiciatrig y brifysgol yn Heidelberg o 1909 i 1915. Daeth Jaspers yn gyfarwydd â Gertrud Mayer (1879–1974), chwaer un o'i gyd-fyfyrwyr, ym 1907, a phriodasant ym 1910.
Ymchwil seiciatrig (1909–15)
[golygu | golygu cod]Gweithiodd Jaspers a'i gyfoedion yn y clinig yn Heidelberg dan arweiniad y niwropatholegydd enwog Franz Nissl. Am iddo gytuno i weithio heb dâl, rhoddwyd i Jaspers ryddid i ddewis amserlen a rhaglen ei hun, ac i weithio gyda'r cleifion a oedd o ddiddordeb iddo, heb gyfarwyddiaeth yr athrawon. Yn fuan, enillodd enw fel ymchwilydd arloesol ar flaen y gad wrth sefydlu seicopatholeg yn faes gwyddonol, gyda fframwaith systematig i ddeall ymddygiad dynol, ac i ddyrchafu therapi cyn pwysiced â diagnosis. Ceisiodd Jaspers roi dulliau ffenomenoleg ar waith ym maes seiciatreg glinigol, ac am hynny fe'i cysylltir â dirfodaeth. Ym 1911, ar gais y cyhoeddwr Ferdinand Springer, cytunodd Kaspers i ysgrifennu gwerslyfr ar seicopatholeg. Ffrwyth y gorchwyl hwnnw, Allgemeine Psychopathologie ("Seicopatholeg Gyffredinol"), oedd ei brif waith cyntaf, a gyhoeddwyd ym 1913 pan oedd Jaspers yn 30 oed. Nodir y gyfrol am ei amlinelliadau cynhwysfawr ac ymdriniaeth feirniadol o'r amryw ddulliau seiciatrig, ac ymdrech yr awdur i'w cyfuno ar ffurf methodoleg seicolegol gydlynol.
Ym 1913 gwahoddodd Prifysgol Heidelberg i Jaspers ymuno â'r gyfadran athroniaeth, a oedd yn cynnwys adran seicoleg. Byddai'n cael ei ddyrchafu yn gyflym yn y brifysgol: fe'i penodwyd yn is-athro seicoleg ym 1916, yn is-athro athroniaeth ym 1920, yn athro athroniaeth ym 1921, ac yn athro cadeiriol mewn athroniaeth ym 1922.[1] Derbyniodd y swydd athro ym 1921 wedi iddo wrthod cynigion tebyg o brifysgolion Kiel a Greifswald.[2]
Y tro at athroniaeth (1916–32)
[golygu | golygu cod]Galwyd Jaspers i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), a gwasanaethodd yn feddyg mewn ysbyty milwrol yn Heidelberg. Ym 1916, fe'i anfonwyd i Ffrynt y Gorllewin fel swyddog meddygol, ac yno y byddai'n dyst i erchyllterau'r brwydro. Dylanwadwyd yn drwm ar ei feddwl gan ei brofiad o ryfel, ac o argyhoeddiad fe benderfynai nad oedd dulliau traddodiadol y gwyddonydd a'r athronydd yn ddigon i ymdrin â chyflwr y ddynolryw yn y byd modern. Aeth ati i gychwyn ar y gorchwyl o ddatblygu system athronyddol ei hun, ac at ddiben hwnnw cyhoeddodd Psychologie der Weltanschauungen ("Seicoleg Bydolygon", 1919), cyfrol sydd yn esbonio'r amryw agweddau tuag at fywyd. Ysbrydolwyd y gwaith hwnnw yn gryf gan Typologie der Weltanschauungen gan Wilhelm Dilthey. Dyma'r trobwynt yng ngyrfa Jaspers oddi ar seicoleg a thuag at athroniaeth a gwyddorau cymdeithas yn gyffredinol.[2]
Cyhoeddodd Jaspers ei gampwaith, Philosophie (tair cyfrol, 1932), sydd yn ymwneud â throsgynoldeb ac Existenz.
Y cyfnod Natsïaidd (1933–45)
[golygu | golygu cod]Fe'i diswyddwyd o Brifysgol Heidelberg ym 1937 oherwydd ei wrthwynebiad i'r llywodraeth Natsïaidd, ac aeth yn alltud i'r Swistir. Yno fe barhaodd i ysgrifennu, ac i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Yr oedd ei wraig Gertrud yn Iddewes, ac yr oedd erledigaeth ac hil-laddiad yr Iddewon gan y Natsïaid yn fygythiad a phoen gwirioneddol i'r cwpl. Myfyriodd Jaspers yn fynych ar gyfrifoldeb ei genedl yn y rhyfel a llofruddiaethau'r Iddewon, a chesglir ei ysgrifau am bwnc euogrwydd yr Almaen yn y gyfrol Die Schuldfrage, ein Beitrag zur deutschen Frage (1946).
Diwedd ei oes (1945–69)
[golygu | golygu cod]Dychwelodd i'r Almaen ym 1945, ac yn sgil diwedd y rhyfel cafodd ei aildderbyn i staff Prifysgol Heidelberg, a'i benodi yn seneddwr er anrhydedd i'r brifysgol ym 1946. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf o'i waith Philosophische Logik ym 1947. Aeth Jaspers yn ôl i'r Swistir ym 1948 i addysgu ym Mhrifysgol Basel. Ym 1958 rhoddwyd iddo Wobr Heddwch yr Almaen yn Ffair Lyfrau Frankfurt,[2] a dyfarnwyd iddo Wobr Erasmus ym 1959.[3] Bu farw Karl Jaspers yn Basel ar 26 Chwefror 1969 yn 86 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Karl Jaspers. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mai 2023.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Jaspers, Karl (1883–1969)", Encyclopedia of Philosophy (2005).
- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Karl Jaspers". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04. Cyrchwyd 25 Mehefin 2017.
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Academyddion Prifysgol Basel
- Academyddion Prifysgol Ruprecht Karl Heidelberg
- Athronwyr yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Ruprecht Karl Heidelberg
- Enillwyr Gwobr Erasmus
- Genedigaethau 1883
- Marwolaethau 1969
- Meddygon yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Pobl o Niedersachsen
- Pobl o Ymerodraeth yr Almaen
- Seiciatryddion o'r Almaen
- Ysgolheigion Almaeneg o'r Almaen