[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Ffwmarol

Oddi ar Wicipedia
Ffwmarol
Mathffenomen folcanig, tirffurf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Twll yng nghramen y Ddaear y daw mwg twym a nwyon folcanig allan ohono yw mygdwll (hefyd ffwmarol). Mae'r ager yn cael ei ffurfio pan fydd dŵr daear wedi'i dra-phoethi'n cyddwyso wrth iddo ymddangos i'r awyr. Mae'r nwyon yn debygol o gynnwys carbon deuocsid, sylffwr deuocsid, hydrogen clorid a hydrogen sylffid. Gall mygdyllau ddigwydd ar hyd craciau bach, ar hyd holltau hir, neu mewn clystyrau anhrefnus.

Mewn rhai rhannau o'r byd, mae mygdyllau'n allyrru anweddau sylffyraidd sy'n ffurfio dyddodion arwynebol. Gellir eu cloddio yn fasnachol.