Egwad
Gwedd
Egwad | |
---|---|
Ganwyd | Ystrad Tywi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad |
Blodeuodd | 7 g |
Swydd | esgob |
Sant o Gymru oedd Egwad (bl. 7g).[1] Fe'i gysylltir ag Ystrad Tywi (sy'n cyfateb yn fras i Sir Gaerfyrddin).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn a wyddys amdano. Yn ôl yr achau roedd yn un o feibion Cynddilig ap Cenydd ap Gildas. Tybir y bu yn ei flodau ar ddechrau'r 7g.[1]
Sefydlodd ddau eglwys yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, un yn Llanegwad a'r llall yn Llanfynydd. Eglwys Sant Egwad yw eglwys plwyf Llanfynydd. Mae'r maen eglwysig cerfiedig a fu yno yn Amgueddfa Cymru bellach. Yno hefyd mae bedd yr emynydd Morgan Rhys; ar ddiwedd ei oes daeth i fyw yn Llanfynydd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
- ↑ Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gar (Cyfres Crwydro Cymru, 1955).