Cyfres Crwydro Cymru
Cyfres o lyfrau taith ar fröydd a siroedd Cymru yw Cyfres Crwydro Cymru, a gyhoeddwyd gan gwmni cyhoeddi Llyfrau'r Dryw (sefydlwyd yn Llandybie yn 1940 gan y llenor Aneirin Talfan Davies a'i frawd Alun Talfan Davies). Dechreuwyd eu cyhoeddi yn 1952 a chafwyd 18 o gyfrolau erbyn canol y 1980au.
Bwriad y gyfres oedd cyflwyno hanes, topograffi a diwylliant hen siroedd a bröydd traddodiadol Cymru ar lun llyfrau taith yng nghwmni llenor adnabyddus sy'n adnabod yr ardal yn dda. Roedd y llenorion hynny yn cynnwys Aneirin Talfan Davies, T. I. Ellis, Bobi Jones, Frank Price Jones, Alun Llywelyn-Williams, Gomer M. Roberts a Ffransis G. Payne. Yn ogystal â bod yn arweinlyfrau da, rhan o apêl y gyfres i'r darllenydd heddiw yw'r darlun o gymdeithas Gymraeg y 1950au a'r 1960au a geir ynddynt, a hynny mewn cyfnod pan ymestynnai'r Fro Gymraeg dros ran sylweddol o Gymru.
Yn ddiweddarach ymestynwyd cynllun gwreiddiol y gyfres i gynnwys llyfrau Crwydro am lefydd y tu allan i Gymru, e.e. Ynysoedd Heledd a Llydaw.
Cyfrolau Crwydro Cymru
[golygu | golygu cod]Yn nhrefn eu cyhoeddi
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (1952)
- T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
- Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (1955)
- T. I. Ellis, Crwydro Mynwy (1958)
- Bobi Jones, Crwydro Môn (1957)
- T. I. Ellis, Crwydro Maldwyn (1957)
- E. Llwyd Williams, Crwydro Sir Benfro, 2 gyfrol (1958, 1960)
- T. I. Ellis, Crwydro Sir y Fflint (1959)
- Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (1959)
- Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960)
- Richard Bryn Williams, Crwydro Patagonia (1960)
- Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (1961)
- Gomer M. Roberts, Crwydro Blaenau Morgannwg (1962)
- Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Brycheiniog (1964)
- Ffransis G. Payne, Crwydro Sir Faesyfed, 2 gyfrol (1966, 1968)
- W. Emlyn Jones, Crwydro Groeg (1966)
- Harri Williams, Crwydro'r Ynys Hir (1968)
- Frank Price Jones, Crwydro Gorllewin Dinbych (1969)
- Harri Williams, Crwydro Cernyw (1971)
- T. I. Ellis, Crwydro Llundain (1971)
- Aneirin Talfan Davies, Crwydro Bro Morgannwg, 2 gyfrol (1972, 1976)