Daniel (proffwyd)
Daniel | |
---|---|
Ganwyd | 7 g CC Jeriwsalem |
Bu farw | 6 g CC Babilon |
Dinasyddiaeth | Jwda, Babylonia, Medo-persia |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol, proffwyd |
Dydd gŵyl | 23 Gorffennaf |
Cymeriad yn Y Beibl ac arwr Llyfr Daniel yw Daniel (Hebraeg: דָּנִיּאֵל Daniyyel ;Perseg: دانيال, Dâniyal neu Danial, hefyd Dani, داني ; Arabeg: دانيال, Danyal).
Pan gaethgludwyd yr Iddewon i Babilon gan y brenin Nebuchodnesar, dewiswyd Daniel ymhlith y rhai oedd i'w cymeryd. Wedi cyrraedd Babilon, bu Daniel yn gwasanaethu'r brenin, a daeth yn amlwg oherwydd ei allu i ddehongli breuddwydion. Enillodd Daniel rym a dylanwad ym Mabilon trwy egluro ystyr breuddwyd a gafodd y brenin am ddelwedd aur â thraed o glai (Dan 2:32-3). Gyda thri Iddew arall, Shadrach, Meshach ac Abednego, gwrthododd Daniel addoli'r delwedd aur a greuwyd ar orchymyn y brenin. Tro arall anwybyddodd Nebuchodnesar ddadansoddiad Daniel o freuddwyd am goeden a dorwyd i lawr i'w bôn gan angel, a oedd yn golygu y byddai'r brenin yn cael ei ddarostwng os nad edifarheuai. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yntau'n ymffrostio am ei allu mawr, aeth Nebuchodnesar o'i gof. Aeth i grwydro yn yr anialwch gan fwyta gwair fel anifail gwyllt (Dan 4:33). Daniel a ddehonglodd ystyr yr ysgrifen ar y pared i Belshasar, oedd yn dynodi diwedd ymerodraeth Babilon a goresgyniad y Persiaid.
Wedi i Babilon gael ei gorchfygu gan Ymerodraeth Persia, daeth Daniel yn un o brif swyddogion y deyrnas dan Darius y Mediad a Cyrus Fawr. Parhaodd i ddilyn Iddewiaeth, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach taflwyd ef i ffau llewod yn dilyn cyhuddiadau yn ei erbyn. Wedi i'r llewod ei adael heb ei niwedidio, gorchymynodd Cyrus fod thaid parchu crefydd Daniel.