[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Dmanisi

Oddi ar Wicipedia
Dmanisi
Mathdinas, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,012 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Dmanisi Edit this on Wikidata
GwladBaner Georgia Georgia
Uwch y môr1,171 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.3322°N 44.2044°E Edit this on Wikidata
Cod post1700 Edit this on Wikidata
Map

Tref fechan yw Dmanisi (Georgeg: დმანისი, Aserbaijaneg: Başkeçid) yn ardal Kvemo Kartli o wlad Georgia, tua 93 km i'r de-orllewin o brifddnas y wlad, Tbilisi. Saif yn Nyffryn Mashavera.

Darganfyddiadau archaeolegol

[golygu | golygu cod]

Mae'r dref yn nodedig oherwydd darganfyddiad archaeolegol pwysig: ffosiliau o un o'r homininau cyntaf y tu allan i Affrica, ac efallai yn rhagflaenu homininau Affrica. Credir ei fod yn dyddio i 1.81 cyn y presennol (CP).[1][2] Dyma un o'r ardaloedd cyfoethocaf ei ffosiliau o homininau ar y blaned.[3]

Bu yma gloddio archaeolegol rhwng 1936 a'r 1960au. Darganfuwyd cyfres o benglogau yn y 2010au cynnar a roddodd fodolaeth i ddamcaniaeth mai un llinach oedd y rhywogaethau gwahanol o fewn y genws homo. Enwir y penglogau yn y drefn y deuthpwyd o hyd iddynt e.e. 'Penglog 5' oedd y pumed penglog i weld golau dydd.

Castell Dmanisi gyda Dmanisi Sioni a'r safle archaeolegol yn y cefn

Homo erectus georgicus

[golygu | golygu cod]

Deuthpwyd o hyd i ffosiliau o esgyrn hominin (neu 'ddyn') rhwng 1991 a 2005. Bedyddiwyd ef yn Homo georgicus ond fe'i ailddosbarthwyd, a bellach caiff ei adnabod fel Homo erectus georgicus. Credir ei fod yn isrywogaeth o Homo erectus, yn hytrach nag yn rhywogaeth ynddo'i hun. Dyma'r hominin cynharaf (hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2017) yn y Cawcasws.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Garcia, T., Féraud, G., Falguères, C., de Lumley, H., Perrenoud, C., & Lordkipanidze, D. (2010). “Earliest human remains in Eurasia: New 40Ar/39Ar dating of the Dmanisi hominid-bearing levels, Georgia”. Quaternary Geochronology, 5(4), 443–451. doi:10.1016/j.quageo.2009.09.012
  2. Gabunia, Leo; Vekua, Abesalom; Lordkipanidze, David et al. "Earliest Pleistocene Hominid Cranial Remains from Dmanisi, Republic of Georgia: Taxonomy, Geological Setting, and Age". Science 12 Mai 2000: Vol. 288 no. 5468 pp. 1019–1025. DOI: 10.1126/science.288.5468.1019.
  3. discovermagazine.com; Archifwyd 2017-06-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Mawrth 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.