Gallt Melyd
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Prestatyn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3167°N 3.4167°W |
Cod OS | SJ059807 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Pentref yng ngogledd Sir Ddinbych rhwng Prestatyn a Diserth yw Gallt Melyd( ynganiad ) (weithiau Allt Melyd; Saesneg: Meliden).[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Tyst i bresenoldeb pobl yn yr ardal yn Oes yr Efydd neu ddiwedd Oes Newydd y Cerrig yw Crug Tŷ Draw, sy'n un o dros 400 o grugiau crwn yng Nghymru.
Tyfodd y pentref wrth i fwyngloddiau plwm a chwareli calchfaen yr ardal agor ar ddiwedd y 18g ac i mewn i'r ganrif olynnol. Enwir y pentref ar ôl Sant Melyd, ac mae'r eglwys yn gysegredig iddo.
Addysg a hamdden
[golygu | golygu cod]Mae'r hen reilffordd rhwng Prestatyn a Diserth yn rhan o Llwybr y Gogledd (Prestatyn - Bangor) erbyn heddiw. Mae gan y pentref gwrs golff naw twll.
Ysgol Gynradd Sant Melyd yw'r ysgol leol.
Eglwys Sant Melyd
[golygu | golygu cod]Yng nghanol y pentref saif Eglwys Sant Melyd a chyfeirir at ei bodolaeth yn 1086 yn Llyfr Dydd y Farn - o bosib allan o bren.[2] Mae'r adeilad presennol wedi'i chodi dros sawl canrif, gyda rhannau gorllewinol ohoni'n dyddio'n ôl i'r 1200au cynnar. Mae'r fynwent a'r lleoliad, fodd bynnag, yn llawer hŷn; gan ei bod yn gron, gwyddom ei bod yn fan addoli yng nghyfnod y Celtiaid.[3] Mae waliau'r rhan yma sy'n perthyn i'r Oesoedd Canol yn llawer mwy trwchus na'r gweddill, gan fod eu pwrpas yn amddiffynnol-filwrol. Yn y wal hon ceir ffenest rosyn gyda darlun o Grist y Brenin ynddi. Arferai'r ffenest hon oleu'r galeri yng nghefn yr egwys, ond mae honno wedi'i thynu i lawr ers tro.
Ceir yma fedyddfaen sydd wedi'i dyddio'n ôl i 1175.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
- ↑ Meliden yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
- ↑ Nodiadau o daflen gan yr Eglwys yng Nghymru
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y gloch a'r talcen gogleddol
-
Cyntedd a'r ochr ddwyreiniol
-
Tu blaen, gyda'r fynedfa
-
Y wal orllewinol sy'n dyddio i 1200au cynnar, gyda'r ffenest rosyn
-
Y cyntedd
-
Prif ffenestr
-
Yr allor
-
Y tu fewn, i gyfeiriad yr allor
-
Dwy ffenest fechan
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion