Bertsolaritza
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol |
---|---|
Math | music of France |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Canu byrfyfyr ar fydr ac odl yn Basgeg yw Bertsolaritza. Mae'n un o ganghennau llên lafar Fasgeg. Mae'n rhaid i'r perfformiwr, sef y bertsolari, creu a pherfformio bertso (penillion) yn gyhoeddus yn sydyn.[1] Gellir canu bertso sy'n ymateb i destun a roddwyd, heb destun penodol, neu fel ymddiddan rhwng dau bertsolari.
Rhaid i'r bertsolaris ddilyn rheolau caeth o ran mesur ac odlau, ac mae ganddi hi neu fo gyfnod byr o amser i wrando ar y testun a dechrau meddwl a chanu'r bertso (ac eithrio bertso papur). [1]
Mae traddodiadau tebyg o ymddiddan cyhoeddus wedi ymddangos mewn llawer o ddiwylliannau ledled y byd. Heddiw, ymhlith eraill, ceir trovo yn ardal Alpujarra yn Andalucía, y payada yn niwylliant Gaucho De America, a repentismo yng Nghiwba. Mae hefyd yn rhan o'r traddodiad Asiaidd, o ddiwylliannau Groeg a Rhufain yr henfyd, ac o hanes Islamaidd Môr y Canoldir. [2]
Hanes
[golygu | golygu cod]18g a'r 19g
[golygu | golygu cod]Er bod olion cynharach hefyd, datblygodd bertsolaritza yng Ngwlad y Basg o'r 19g ymlaen. Ni ledodd ar draws yr holl wlad i'r un raddau, fodd bynnag. Perfformiodd rhai o'r bertsolari mwyaf poblogaidd mewn rhannau o Gipuzkoa. Rhyfeloedd a helbulon niferus yr 19g oedd y thema yn aml. Yn hynny o beth, ymddangosodd pamffledi bertso niferus yn erbyn Ffrainc, o blaid y Carlistiaid a'r Rhyddfrydwyr, ac ynglŷn â Rhyfel Annibyniaeth Ciwba, gyda rhai ar lafar hefyd. Roedd y bertso a ledaenwyd trwy'r pamffledi hyn yn boblogaidd iawn, ac mewn rhai achosion nhw oedd un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd i drafod digwyddiadau a newyddion y dydd.
Xenpelar o Errenteria yw'r enwocaf o bertsolari hynaf y ganrif. Y mae llawer o'i benillion yn cael eu canu o hyd, megis Betroiarenak, Pasaiko zezenarenak (tarw Pasaia) neu Ia guriak egin du. Er nad oeddent yn sefyll allan fel perfformwyr byrfyfyr, mae penillion Jose Mari Iparragirre (megis Ume eder bat - plentyn hardd, a Gerniako arbola - coeden Gernika) a Bilintxen (megis Behin batian Loiolan a Loriak udan intza bezela) hefyd yn nodedig. Gadawodd Piarres Topet (enw barddol: <i id="mwZQ">Etxahun</i>) o Barkoxe yn Zuberoa gyfres o benillion adnabyddus (Ürx’aphal bat badügü, Maria Solt eta Kastero ... ) a Joanes Otsalde o Bidarrai yn Nafarroa Beherea (Lurreko ene bizia, Iruñeko ferietan…)
Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g, roedd deallusion Basgaidd yn edrych i lawr ar bertsolaritza byrfyfyr. Newidiodd Manuel Lekuona (1894-1987) y ffordd draddodiadol hon o feddwl pan siaradodd am farddoniaeth boblogaidd ym 5ed Cyngres yr Eusko Ikaskuntza yn Bergara ym 1930. Rhoddodd enghreifftiau, rhoddodd drefn ar ddulliau bertsolaritza, a dosbarthodd y mathau gwahanol o ganu. Trwy hynny, gosododd y sylfeini ar gyfer astudiaeth wyddonol o bertsolaritza.
Wrth i'r 19g fynd rhagddi, ymddangosodd llawer o bertsolari yn Gipuzkoa, yn enwedig yn ardaloedd Asteasu a Zizurkil ar y naill law a Donostia ac Orio ar y llall: y rhai enwocaf oedd Udarregi (sef Juan Jose Alkain), Pello Errota (sef Pedro Jose Elizegi) a Pello Mari Otaño. Roedd Udarregi, fel llawer, yn anllythrennog ar y pryd: ond yn ddeallus iawn. Dyfeisiodd system arbennig ar gyfer cofio bertso. Mae Pello Errota yn enwog oherwydd ei feddwl cyflym a'i ddychan miniog; felly, gofynnid yn fynych iddo ysgrifennu bertso. Roedd Pello Mari Otaño yn cael ei adnabod wrth y llysenw Kattarro (annwyd) oherwydd ei lais gwan. Fodd bynnag, gan ei fod yn fwy llythrennog nag eraill, rhoddodd lawer o'i waith ar bapur - megis Lagundurikan danoi, Mutil koxkor bat, Zazpiak bat, Ameriketako panpetan ac ati. [3]
Dyma enwau rhai o bertsolari'r cyfnod:
- Pernando Amezketarra 1764-1823
- Etxaun Barkoxe 1786-1862
- Iparragirre 1820-1881
- Bilintx 1831-1876
- Xenpelar 1835-1869
- Otaño 1857-1910
Dechrau'r 20g
[golygu | golygu cod]Gostyngodd bri bertsolaris ychydig ar ddechrau'r 20g. Fodd bynnag, nid oedd prinder bertsos yn ystod gwyliau a dathliadau pwysicaf trefi a chymdogaethau, a pharhaodd pamffledi gyda hanesion doniol i ymledu. Roedd y bertsolaris hefyd yn ymdrin â'r rhan fwyaf o faterion cymdeithasol: bywydau morwyr a ffermwyr, brwydrau a streiciau'r gweithwyr, digwyddiadau enwog y cyfnod (Y Rhyfel Byd Cyntaf neu Rhyfel y Rif yng Ngogledd Affrica tua 1920), ac ati.
Cyn y rhyfel, perfformiodd bertsolaris da yn Gipuzkoa a'r cyffiniau; Usurbil, Hernani, Errenteria, yn enwedig yn Oiartzun: Gaztelu (sefJuan Bautista Urkia) o Usurbil, Saiburu (sef Juan Jose Lujanbio) o Hernani, Teilleri txiki (sef Jose Mari Berra) o Errenteria, Kaskazuri (sef Jose Joakin Urbieta) o Oiartzun, Fermin Imaz o Donostia; Zapirain a'r brodyr Juan a Pello Zabaleta o Errenteria; Lexo (sef Juan Jose Sarasola) o Lezoko ymhlith eraill. Roedd yna hefyd bertsolaris yn Azkoitia ac Azpeitia: Atano (sef Juan Mari Juaristi), Etxeberritxo (sef Juan Mari Zubizarreta), Uztarri, Frantzisko Iturzaeta . . .
Ond y bertsolari a ganai ym mron pob cwr o Wlad y Basg y pryd hwnnw oedd Jose Manuel Lujanbio <i id="mwvg">Txirrita</i> (1860 - 1936). Cafodd y dyn hwn, a aned yn Hernani ac a symudodd i fferm Txirrita yn Errenteria yn dair ar ddeg oed, lwyddiant aruthrol. Roedd yn dda am bopeth: yn chwim ei feddwl ac yn llythrennog, mewn pynciau chwareus a difrifol, ar ei ben ei hun neu gyda ffrindiau. Mae wedi dod yn ystrydeb i alw bertsolaritza yr amser yn "bertsolaritza seidr". Weithiau byddai hefyd yn cymryd rhan mewn twrnameintiau, ond nid dyma oedd y mwyaf cyffredin, gan nad oedd yn teimlo'n gyfforddus o gwbl yn yr awyrgylch honno a mynegwyd hyn mewn llawer o'i benillion. <sup id="mwww">[3]</sup> Mae rhai o'i benillion enwog yn cynnwys Neskazar bat tentatzen, Albaiteruen salan, Proportziyo bat, Il da Canovas, Gure munduko bizimodua a Norteko trenari jarriak.
Tu allan i Gipuzkoa, ni chryfhawyd bertsolaritza rhyw lawer yn Bizkaia. Fodd bynnag, rhaid inni beidio ag anghofio pwysigrwydd y teulu Enbeita yn Muxika. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, Urretxindorra (sef Kepa Enbeita, 1878 - 1942) oedd yr enwocaf ynghyd â'i frawd Imanol. Teithiodd yn aml y tu allan i'w dalaith hefyd, gan gystadlu ag eraill neu hyd yn oed amddiffyn syniadau cenedlaetholwyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol a ralïau. Er ei fod yn defnyddio Basgeg "pur" y puryddion i raddau, gallai gyrraedd y gynulleidfa yn hawdd. Ar ôl y rhyfel, dilynodd ei fab Balendin a nifer o wyrion draddodiad bertsolari'r teulu.
Arloesi yn ystod y Weriniaeth
[golygu | golygu cod]Cyfnod o dawelwch: (1936-1945)
[golygu | golygu cod]Bertsolaritza'r gwrthryfel: (1960-1979)
[golygu | golygu cod]Bertsolaritza a bertsolaris cyfoes
[golygu | golygu cod]Ysgolion Bertso
[golygu | golygu cod]Menywod a bertsolaritza
[golygu | golygu cod]Mathau o sesiynau
[golygu | golygu cod]Sesiynau cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Gwobrau a thwrnameintiau
[golygu | golygu cod]Bertsolaris enwog
[golygu | golygu cod]Clasuron
[golygu | golygu cod]- Basarri
- Bilintx
- Balendin Enbeita
- Kepa Enbeita
- Pello Errota
- Etxahun
- Joan Etxamendi
- Lazkao Txiki
- Lexo
- Lexoti
- Otaño
- Pernando Amezketarra
- Mattin Treku
- Txirrita
- Uztapide
- Xalbador
- Xenpelar
- Zepai
Cyfoes
[golygu | golygu cod]- Miren Amuriza
- Xabier Amuriza
- Amets Arzallus
- Sustrai Colina
- Andoni Egaña
- Igor Elortza
- Aitor Sarriegi
- Nerea Elustondo
- Xabier Euzkitze
- Oihana Iguaran
- Jesus Mari Irazu
- Unai Iturriaga
- Sebastian Lizaso
- Jon Lopategi
- Maialen Lujanbio
- Jon Maia
- Mañukorta
- Alaia Martin
- Jon Martin
- Xabier Paya
- Anjel Mari Peñagarikano
- Jon Sarasua
- Xabier Silveira
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Canu sean-nós Gwyddelig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ahozko euskal literaturaren antologia = Antología de literatura oral vasca, Etxepare Euskal Institutua, D.L. 2013, ISBN 9788469566923, OCLC 881218648, https://www.worldcat.org/oclc/881218648
- ↑ R. Fernández Manzano eta beste: El trovo de la Alpujarra. Centro de Documentación Musical de Andalucía argitaletxea, 1992, 27. orrialdea.
- ↑ 1953-, Garzia, Joxerra, ([2012]), Bertsolaritza : euskarazko bat-bateko bertsogintzaren gaur egungo egoera, tradizioa eta etorkizuna = El bertsolarismo : realidad, tradición y futuro de la improvisación oral vasca = Bertsolaritza : the reality, tyradition and future of Basque orsl improvisation, Etxepare Euskal Institutua = Instituto Vasco Etxepare, ISBN 9788461497638, OCLC 857339605, https://www.worldcat.org/oclc/857339605