Adran Treftadaeth
Gwedd
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Adran Treftadaeth Llywodraeth Cymru a oedd yn gyfrifol dros faterion yn ymwneud â diwylliant Cymru a chwaraeon, twristiaeth a'r iaith Gymraeg. Alun Ffred Jones, AC oedd y Gweinidog dros Dreftadaeth diwetha.
Roedd yr adran yn ceisio "rhoi cyfle i bawb fwynhau'r celfyddydau, diwylliant, chwaraeon, twristiaeth a'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru", gyda'r nod o hybu'r broses o adfywio cymunedau yng Nghymru drwy dreftadaeth y wlad.
Nodir ei phrif amcanion fel:
- ehangu mynediad i'r celfyddydau a diwylliant i bawb
- gwarchod, diogelu, cynnal a hyrwyddo mynediad ehangach at amgylchedd hanesyddol Cymru
- creu llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain
- annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- hyrwyddo a datblygu twristiaeth yng Nghymru
- creu Cymru ddwyieithog lle mae cyfle i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Yn 2011, creuwyd swydd Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.[1] Bellach mae treftadaeth yn dod o dan gyfrifoldeb Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Yr Adran Treftadaeth[dolen farw] ar wefan Llywodraeth Cymru