Claf
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr |
---|---|
Math | person sal, cwsmer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Person sy'n derbyn sylw, gofal, neu driniaeth feddygol yw claf.
Cleifion mewnol ac allanol
[golygu | golygu cod]Claf a gyfeirir gan weithiwr iechyd proffesiynol, megis meddyg neu ddeintydd, i weld ymgynghorydd yn yr ysbyty am farn arbenigol yw claf allanol. Mae claf mewnol ar y llaw arall yn aros yn yr ysbyty am gyfnod am brofion neu am lawdriniaeth. Mae angen gwely ar glaf dydd (neu achos dydd) am brofion neu am lawdriniaeth, ond nid yw claf dydd yn aros yn yr ysbyty dros nos fel cleifion mewnol arferol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ysbytai: Cael eich derbyn i'r ysbyty. Directgov. Adalwyd ar 13 Hydref, 2009.