Chwedl Gelert
Enghraifft o'r canlynol | ci mytholegol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Stori boblogaidd o darddiad ansicr yw chwedl Gelert, sydd wedi'i lleoli ym mhentref Beddgelert, Gwynedd.
Y chwedl gyfarwydd
[golygu | golygu cod]Mae'r chwedl gyfarwydd yn sôn am 'Lywelyn' - sef Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru - yn mynd i hela heb ei gi ffyddlon Gelert, gan ei adael i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaw'r tywysog yn ei ôl o'r hela, mae'n darganfod ei gi a gwaed dros ei ffroenau, a dim golwg yn unlle am ei fab. Gydag un rawiad o'i gleddyf, mae'n lladd ei gi. Yna, yn rhy hwyr clywai sŵn crio - roedd Gelert wedi cuddio'r tywysog bach o dan y crud, rhag y blaidd mawr, cas. Roedd Gelert wedi llarpio hwnnw, wedi amddiffyn y tywysog ac wedi ei gosbi'n ddrud am ei ddewrder.[1]
Credir i'r chwedl hon gael ei llunio gan dafarnwr lleol i ddenu twristiaid (gweler isod).
Tarddiad y chwedl
[golygu | golygu cod]Chwedlau canoloesol
[golygu | golygu cod]Yn ôl Gwyddoniadur Cymru, ceir fersiwn o'r stori sy'n dyddio nôl i ddiwedd y 15g, neu cyn hynny, ac yn sôn am Cilhart, ci Llywelyn ap Gruffudd, a fu farw o flinder ar ôl erlid carw, a'i gladdu ym Meddgelert.[2] Dadleir fod y stori hon yn hysbys yn y canoloesoedd, fel y gwelir ar y llun ar y dde, sef symbol o Gymru - crud aur a milgi arian - un o chwe symbol o lun a wnaed yn oes Rhisiart III, brenin Lloegr.
Ond nid oes cofnod o'r chwedl hon yn llenyddiaeth a thraddodiadau Cymru (gweler isod). Fodd bynnag, mae fersiwn o'r chwedl hon ar gael bron yr un ffunud - ond heb sôn am Lywelyn na Gelert na Chymru - mewn casgliad o chwedlau canoloesol poblogaidd o'r enw Historia Septem Saptientum a gyfieithwyd o'r Lladin i Gymraeg Canol yn y 15g wrth y teitl Chwedlau Saith Doethion Rhufain (ceir cyfieithiadau mewn nifer o ieithoedd eraill hefyd). Ceir fersiynau ysgrifenedig a llafar o'r chwedl o mor bell i ffwrdd ag India, ac mae'n bosibl ei bod yn tarddu o'r is-cyfandir. Byddai'r Saeson yn gwybod amdani hefyd, achos roedd y casgliad o chwedlau yn hynod o boblogaidd yn y cyfnod. Yn y cyfieithiad Cymraeg Canol, sy'n dilyn manylion y testun Lladin, lleolir y chwedl yn Rhufain, nid Cymru.[3]
Stori tafarnwr Yr Afr
[golygu | golygu cod]Dyma'r fersiwn boblogaidd o'r chwedl. Dyfeisiwyd y stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol o'r enw Dafydd Prisiart (David Prichard), ar ddiwedd y 18g neu ddechrau'r 19eg, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Yn ôl D. E. Jenkins yn ei gyfrol Bedd Gelert, its Facts, Fairies and Folk-lore (1899), daeth Dafydd Prisiart i'r plwyf tua 1793 a bu farw yn Chwefror 1821. Roedd yn frodor o'r De. Cynigir ei fod yn gyfarwydd â fersiwn o'r chwedl ryngwladol (gweler uchod) a'i fod wedi ei haddasu trwy ei lleoli ym Meddgelert.[4] Cododd David Prichard, tafarnwr Yr Afr a dyfeisiwr y chwedl gyfarwydd, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[2]
Diffyg traddodiadau Cymreig cynnar
[golygu | golygu cod]Casglodd John Jones (Myrddin Fardd) nifer fawr o chwedlau a thraddodiadau am ogledd-orllewin Cymru yn ei gyfrol adnabyddus Llên Gwerin Sir Gaernarfon. Mae'n sôn am chwedl gyfarwydd y tafarnwr ac yn esbonio ei fod yn ffuglen. Dywed hefyd fod dim sôn am chwedl Gelert yn llyfrau'r hynafiaethwyr cynnar fel William Camden (1551–1623) a John Leland (tua 1506-1552) a dydi Thomas Pennant ddim yn cyfeirio ato yn ei lyfr enwog Tours in Wales (1778), sy'n cynnwys pennod am Feddgelert.[1] Yn ogystal, does dim sôn gan y beirdd - a cheir sawl cerdd sy'n cyfeirio at Feddgelert - na dim awgrym o'r chwedl mewn unrhyw ffynhonnell Gymraeg hynafol arall chwaith.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Myrddin Fardd, Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908), tt. 198-99.
- ↑ 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 370.
- ↑ Henry Lewis (gol.), Chwedleu Seith Doethon Rufein (Wrecsam, 1925), rhagymadrodd.
- ↑ Henry Lewis (gol.), Chwedleu Seith Doethon Rufein (Wrecsam, 1925), rhagymadrodd, tt. 27-28.