[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Llifon

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Llifon a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 07:31, 3 Ionawr 2017. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Un o ddau gwmwd Cantref Aberffraw ym Môn yn Oes y Tywysogion oedd Llifon. Roedd yn gorwedd i'r gogledd o'r cwmwd arall, Malltraeth ac yn ffinio hefyd â rhan o gwmwd Menai (cantref Rhosyr) a chantref Cemais yn y dwyrain. Roedd rhan ddeheuol Ynys Gybi yn y cwmwd yn ogystal.

Roedd y cwmwd yn cynnwys sawl treflan ac aneddle ond ni wyddys i sicrwydd pa un oedd y maenor (prif dref y cwmwd).

Ganed y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527) yng nghwmwd Llifon tua chanol y 15g.

Plwyfi

[golygu | golygu cod]

Roedd tri phlwyf ar ddeg yn y cwmwd:

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]