[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Jawa

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:32, 16 Ebrill 2011 gan Ripchip Bot (sgwrs | cyfraniadau)

Mae Jawa (weithiau Java) yn un o ynysoedd Indonesia. Mae'n ynys weddol fawr, 132,000 cilometr sgwâr, a hi yw'r fwyaf poblog o ynysoedd y byd, gyda 114 miliwn o drigolion.

Lleoliad ynys Jafa

Rhennir Jafa yn bedair talaith, un ardal arbennig (daerah istimewa), ac ardal y brifddinas, Jakarta:

Mae Jawa'n un o gadwyn o ynysoedd, gyda Sumatra i'r gogledd-orllewin a Bali i'r dwyrain. I'r gogledd-ddwyrain mae ynys Borneo. Mae Jafa yn ardal folcanig, gyda nifer o losgfynyddoedd, ac oherwydd hyn mae'r tir yn ffrwythlon iawn.

Ar Jawa mae prifddinas Indonesia, Jakarta. Mae nifer o ddinasoedd mawr eraill, yn cynnwys Surabaya, Bandung a Semarang. Ymhlith nodweddion diddorol yr ynys mae teml Fwdhaidd Borobudur a theml Hindwaidd Prambanan. Siaredir Jafaneg yn y canolbarth a'r dwyrain, a Swndaneg yn y gorllewin.


Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.