Bleiddbwll
Pwll neu drap wedi ei orchuddio â changhennau a dail i ddal bleiddiaid yw bleiddbwll (hefyd: pwll y blaidd).[1]
Enghraifft o'r canlynol | adeiladu |
---|---|
Math | adeiladwaith pensaernïol, animal trap |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gallasai bleiddbwll fod yn grwn ac wedi'i walio ar y tu mewn yn ddigon tebyg i ffynnon neu'n hirsgwar neu'n sgwâr a chlwydi â gorchudd o dywyrch yn cael eu gosod drostynt. Y dechneg oedd colfachau'r glwyd yn ei chanol a'i gosod yn y fath fodd fel bod ei bôn yn gorffwys ar un ymyl i'r pwll tra bod y tair ochr arall fymryn yn brin o'r ymylon. Felly, cyn gynted ag y byddai'r blaidd yn camu ar hanner blaen y glwyd byddai honno'n troi ar ei cholfachau gan ei ollwng i mewn i'r pwll. Ceid hefyd colofn neu bentan yng nghanol y bleiddbwll fel llwyfan cyfyng i glymu anifail prae bychan arno er mwyn denu'r blaedd i mewn.[2]
Drwy chwilio mewn hen weithredoedd, siarteri, mapiau a dogfennau eraill, llwyddwyd i ddod o hyd i nifer o fleiddbyllau yng Nghymru, sef chwe bleiddbwll, pum bribwll, pum pwll y blaidd, un pwll y bleiddiau, un pwll y fleiddast, a dau wolfpit.[3]