[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Bleiddbwll

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Bleiddbwll a ddiwygiwyd gan Bot Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) am 18:46, 16 Awst 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Bleiddbwll
Enghraifft o'r canlynoladeiladu Edit this on Wikidata
Mathadeiladwaith pensaernïol, animal trap Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bleiddbwll yn yr Almaen

Pwll neu drap wedi ei orchuddio â changhennau a dail i ddal bleiddiaid yw bleiddbwll (hefyd: pwll y blaidd).[1]

Gallasai bleiddbwll fod yn grwn ac wedi'i walio ar y tu mewn yn ddigon tebyg i ffynnon neu'n hirsgwar neu'n sgwâr a chlwydi â gorchudd o dywyrch yn cael eu gosod drostynt. Y dechneg oedd colfachau'r glwyd yn ei chanol a'i gosod yn y fath fodd fel bod ei bôn yn gorffwys ar un ymyl i'r pwll tra bod y tair ochr arall fymryn yn brin o'r ymylon. Felly, cyn gynted ag y byddai'r blaidd yn camu ar hanner blaen y glwyd byddai honno'n troi ar ei cholfachau gan ei ollwng i mewn i'r pwll. Ceid hefyd colofn neu bentan yng nghanol y bleiddbwll fel llwyfan cyfyng i glymu anifail prae bychan arno er mwyn denu'r blaedd i mewn.[2]

Drwy chwilio mewn hen weithredoedd, siarteri, mapiau a dogfennau eraill, llwyddwyd i ddod o hyd i nifer o fleiddbyllau yng Nghymru, sef chwe bleiddbwll, pum bribwll, pum pwll y blaidd, un pwll y bleiddiau, un pwll y fleiddast, a dau wolfpit.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. Wolves of North America, Stanley P. Young & Edward A. Goldman, American Wildlife Institute, 1944
  3. Galwad y Blaidd, Cledwyn Fychan, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2006