Ymerodraeth Awstria
Gwladwriaeth amlgenhedlig yng Canolbarth Ewrop a fodolai o 1804 i 1867 oedd Ymerodraeth Awstria (Almaeneg Awstria: Kaiserthum Oesterreich; Almaeneg Modern: Kaisertum Österreich) a oedd yn un o'r pwerau mawrion yng nghyfnod Cytgord Ewrop. Sefydlwyd drwy broclamasiwn ar 11 Awst 1804 gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Fe'i crëwyd drwy uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, a pharhaodd Awstria yn un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig nes 1806 pryd diddymwyd yr ymerodraeth gan Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc. Yn sgil Cynhadledd Fienna (1815), ymunodd Awstria â Chydffederasiwn yr Almaen, ac Awstria a Phrwsia oedd dwy brif aelod-wladwriaeth yr hwnnw. Ymerodraeth Awstria oedd yr ymerodraeth drydedd fwyaf yn Ewrop yn nhermau poblogaeth – ar ôl Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon – ac yn nhermau arwynebedd, ar ôl Rwsia ac Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc.
Ymerodraeth Awstria Kaisertum Österreich (Almaeneg) | ||||||
| ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Anthem Gott erhalte Franz den Kaiser "Duw gadwo'r Ymerawdwr Ffransis" | ||||||
Ymerodraeth Awstria in 1815.
| ||||||
Tiriogaeth Ymerodraeth Awstria ar ei hanterth (1850au).
| ||||||
Prifddinas | Fienna | |||||
Ieithoedd | Almaeneg, Hwngareg, Tsieceg, Slofaceg, Pwyleg, Rwtheneg, Slofeneg, Croateg, Serbeg, Rwmaneg, Lombardeg, Feniseg, Ffriwleg, Ladineg, Eidaleg, Wcreineg | |||||
Crefydd | Yr Eglwys Gatholig Rufeinig | |||||
Llywodraeth |
| |||||
Ymerawdwr | ||||||
- | 1804–35 | Ffransis I | ||||
- | 1835–48 | Ferdinand I | ||||
- | 1848–67 | Franz Joseph I | ||||
Gweinidog-Lywydd | ||||||
- | 1821–1848 | Klemens von Metternich (cyntaf) | ||||
- | 1867 | Friedrich Ferdinand von Beust (olaf) | ||||
Deddfwrfa | Y Cyngor Ymerodrol | |||||
- | Upper house | Tŷ'r Arglwyddi | ||||
- | Lower house | Tŷ'r Dirprwyon | ||||
Cyfnod hanesyddol | 19eg ganrif | |||||
- | Proclamasiwn | 11 Awst 1804 | ||||
- | Diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig | 6 Awst 1806 | ||||
- | Cynhadledd Fienna | 8 Mehefin 1815 | ||||
- | Mabwysiadu'r cyfansoddiad | 20 Hydref 1860 | ||||
- | Rhyfel Awstria a Phrwsia | 14 Mehefin 1866 | ||||
- | Cyfaddawd 1867 | 30 Mawrth 1867 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | 1804 | 698,700 km² (269,770 sq mi) | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 1804 amcan. | 21,200,000 | ||||
Dwysedd | 30.3 /km² (78.6 /sq mi) | |||||
Arian cyfred |
| |||||
1: Tiriogaethau Archddugiaeth Awstria a Choron Bohemia yn unig. |
Cydnabuwyd lled-annibyniaeth Teyrnas Hwngari yn Regnum Independens, a chafodd Hwngari ei llywodraethu gan sefydliadau ar wahân. Yn sgil trechu Awstria yn Rhyfel Awstria a Phrwsia (1866), cytunwyd ar gyfaddawd (Almaeneg: Ausgleich, Hwngareg: Kiegyezés) yn 1867 i sefydlu brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari.