Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
Ym 1801, gan weithredu Deddf Uno 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.
[[File:Coat of Arms of the United Kingdom (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1801-1816).svg, Coat of Arms of the United Kingdom (1816-1837).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1816-1837).svg, Coat of arms of the United Kingdom (1901-1952).svg, Coat of Arms of the United Kingdom in Scotland (1837-1952).svg|100px|upright=1]] | |
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Llundain |
Poblogaeth | 45,370,530, 16,345,646, 42,769,196 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | God Save the King |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Arwynebedd | 315,093 km² |
Cyfesurynnau | 51.507222°N 0.1275°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd y Deyrnas Unedig |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Prydain Fawr ac Iwerddon |
Pennaeth y wladwriaeth | Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig |
Arian | punt sterling |
Nodweddir hanes y deyrnas gan dwf yr Ymerodraeth Brydeinig, a gyrhaeddodd ei hanterth yn oes y frenhines Victoria. Y ffactor bwysicaf yn hanes mewnol y deyrnas efallai oedd y galwadau cynyddol am ymreolaeth neu hunanreolaeth i Iwerddon, Cymru a'r Alban. Arweiniodd hyn yn y pen draw at sefydlu Saorstat Eireann a rhwygo'r wladwriaeth a'i hailenwi. Prin y ceir blwyddyn yn hanes y deyrnas na welwyd ei lluoedd arfog yn ymladd rhywle yn y byd, e.e. y Rhyfeloedd Napoleonaidd, Rhyfel Crimea, Rhyfel y Boer a'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Brenhinoedd a breninesau Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
golyguDyma restr o frenhinoedd a breninesau'r deyrnas Unedig o 1801 hyd 1927.
- Siôr III (1760-1820), ŵyr Siôr II, brenin Prydain Fawr
- Siôr IV (1820-1830), mab Siôr III
- William IV (1830-1837), brawd Siôr IV
- Victoria (1837-1901), nith William IV
- Edward VII (1901-1910), mab Victoria
- Siôr V (1910-1936) mab Edward VII