[go: up one dir, main page]

Am fwy o wybodaeth am y ddrama wreiddiol, gweler The Caretaker

Y Gofalwr
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1964
AwdurHarold Pinter
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi19 Hydref 2011 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9781845273576
Tudalennau152 Edit this on Wikidata

"Trosiad" neu "gyfieithiad" a "Chymreigiad" Elis Gwyn Jones o ddrama Harold Pinter The Caretaker yw Y Gofalwr.[1] Mae'r ddrama'n dyddio o 1964. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2011 i gyd fynd â llwyfaniad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2] Bu o leiaf dau gynhyrchiad blaenorol hefyd gan gynnwys Theatr Fach y Gegin yng Nghricieth ym 1964 a Chwmni Theatr Cymru ym 1970.

Disgrifiad byr

golygu

Drama am dri chymeriad sy'n dioddef stormydd emosiynol wrth geisio byw mewn amgylchiadau oer a dideimlad.

Cefndir

golygu

Dyma ddrama lwyddiannus cyntaf Harold Pinter, ar ôl i The Birthday Party gau gwta wythnos wedi’r agor. Oni bai am adolygiad ffafriol Harold Hobson yn y Sunday Times, gafodd ei gyhoeddi ddiwrnod wedi’r cau, go brin fyddai neb wedi clywed mwy am Pinter, a’i ddawn fel dewin y geiriau a’r seibiau.

Mae'r ddrama yn seiliedig ar brofiad personol Pinter, pan oedd yn byw mewn fflat yn Chiswick; "mae’n cofio dau frawd yn byw ar un o’r lloriau isaf – un yn weithiwr diwyg, yn rhuthro lan a lawr y grisiau yn ddyddiol, cyn gyrru ymaith yn ei fan wen, tra bod y llall yn llawer mwy tawel, yn ei ddyfnder o ddirgelwch. Un noson, fe wahoddodd y brawd tawel drempyn i’r tŷ, hen ŵr a fu’n trigo gyda’r teulu am dair neu pedair wythnos. Dyna’r sbarc a daniodd dychymyg Pinter, sy’n nodweddiadol o sawl drama arall o’i eiddo. “I just write” oedd ei genadwri, gan adael i gyfrolau o ddamcaniaethau geisio eglurhad."[3]

Mae'r academydd Roger Owen yn awgrymu bod Gwenlyn Parry wedi "ffoli" hefyd ar ôl gweld cynhyrchiad Theatr Fach y Gegin o'r ddrama [ym 1965], a bod "perfformiad Guto Roberts" yn y cynhyrchiad wedi "ei ysbrydoli" gymaint, iddo greu'r saer yn ei ddrama Saer Doliau [1966] ar ei gyfer. Mae o hefyd yn honni bod aelodau'r cwmni gwreiddiol wedi datgan wrtho, mai ar gyfer Theatr y Gegin y cyfansoddodd Gwenlyn y ddrama.[1]

Y Cyfeithiad

golygu

Fel nodwyd uchod, mae'r academydd Roger Owen yn awgrymu mai "Cymreigiad" yn ogystal â "chyfieithiad" yw'r ddrama, a hynny yn seiliedig ar farn adolygwyr y cyfnod.[1] Ynghanol ei ganmoliaeth o'r cynhyrchiad gwreiddiol ym 1964, nododd yr adolygydd Dewi Llwyd Jones yn Y Faner [Hydref 1964] bod y "trosiad yn gampus", tra'n nodi hefyd "ni honnir ei fod yn gyfieithiad academaidd o'r gwreiddiol [...] ond yr oedd y ddrama'n ymdrin â bywyd tri chymeriad Cymraeg, a'r iaith honno yn iaith naturiol iddynt".[1]

"Yn y ddrama Saesneg, daliodd Pinter sigl sgwrs gyffredin bob dydd gyda'i hail-adrodd dibwys a'i mân amherthnasau gwrthun" oedd sylw'r academydd Bedwyr Lewis Jones yn Y Cymro [Medi 1964] "Yn ei gyfieithiad, trosodd Elis Gwyn Jones hyn oll i'r Gymraeg yn rhyfeddol o Iwyddiannus", ychwanegodd.[1]

"Braidd yn drwsgl oedd y trosiad" i adolygydd Theatr Y Cymro, Paul Griffiths yn 2010, "...yn cwffio’n anfodlon gyda’r Saesneg farddonol wreiddiol, a dialog cyhyrog, gyfoethog Eifionydd. Roedd defnyddio’r gair “caretaker” yn chwithig iawn yn yr Act gyntaf, a hynny o enau ‘Aston’ [...] oedd yn amlwg yn medru ynganu geiriau Cymraeg godidog pan y myn. Roedd na gryn anghysondeb drwyddi draw, a dylid fod wedi cywiro neu addasu, er mwyn y glust. Collwyd llawer o’r seibiau effeithiol bwriadol, a’r cyfarwyddiadau llwyfan manwl o’r gwreiddiol, yn enwedig ar gychwyn y ddrama, drwy ddileu presenoldeb bygythiol ‘Mick’ [...] ac elfennau pwysig o’r dirgelwch", ychwanegodd.[3]

Yn y gyfrol Llwyfannau Lleol a gyhoeddwyd yn 2000, mae Roger Owen yn dyfynnu geiriau "hyderus" a "chofiadwy" Elis Gwyn Jones, pan gafodd ei holi am gyfieithu dramâu gan Christopher C. Somerville, mewn erthygl am 'y Ddrama Gymraeg ar lwyfan' yn y Caernarvonshire Life and North Wales Journal [Ebrill 1965] - "I asked Elis Gwyn Jones [...] whether he felt that plays lost much in translation,' meddai Somerville. 'No, atebodd Elis Gwyn, 'any play will translate into Welsh. Sometimes translation improves the original."[1]

Mae RO hefyd yn cyfleu ysbryd holl aelodau o Theatr Fach y Gegin drwy nodi: "Roedd prif gefnogwyr y Gegin oll yn unfryd eu barn mai dyletswydd y Cwmni oedd sicrhau cynnyrch a oedd, o ran ei ansawdd a'i awyrgylch, yn wirioneddol Gymreig ei naws, yn hytrach na chyflwyno'r hyn a elwid gan Wil Sam yn '[dd]ifyrrwch Seisnig yn yr iaith Gymraeg?'.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Davies - y trempyn
  • Mick
  • Aston

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu
 
Llun cast Theatr Fach y Gegin o Y Gofalwr Harold Pinter 1963/64

Cafwyd y cynhyrchiad cyntaf ohoni gan Theatr y Gegin, Cricieth ym 1964.[4] Cyfarwyddwr Elis Gwyn Jones.

"Guto Roberts gymrodd ran y tramp yn Y Gofalwr; Stewart Jones oedd y brawd ymosodol; a W.D. Jones, y bardd, oedd yn actio'r brawd gwael", yn ôl Wil Sam yn ei hunangofiant. "Roedd y tri ar eu gorau. Dyma'r gwaith gorau wnaeth Guto erioed, yn fy marn i ac ym marn pobl llawer mwy deallus na fi. Mi welais Donald Pleasance yn cymryd rhan y tramp ar y llwyfan yn Llundain ac mi swynodd y gynulleidfa efo'i bortread o'r hen swnyn, ond wir, roedd Guto cystal os nad gwell na Pleasance y noson honno yn 1968".[5]

1970au

golygu
 
Llun cast Cwmni Theatr Cymru o Y Gofalwr Harold Pinter 1970

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970.

2010au

golygu
 
Llun cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Y Gofalwr 2010

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010. Dyma oedd cynhyrchiad olaf Cefin Roberts fel arweinydd artistig y Cwmni.[3] Cyfarwyddwr Cefin Roberts; cynllunydd Sean Crowley

"Gyda balchder, roedd y cwmni’n arddangos poster o gynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o’r ddrama," meddai Paul Griffiths yn Y Cymro, "...ac enw Meredith Edwards yn serennu ar y poster. Dyma ichi actor profiadol, yn ei bumdegau hwyr bryd hynny, wedi gyrfa lwyddiannus ar lwyfan ac ym myd y ffilmiau. Jonathan Pryce wedyn, yn y Trafalgar Studios yn Llundain, eto’n ŵr yn ei oed a’i amser, a phrofiad helaeth ar sawl llwyfan yn sylfaen gadarn i ddenu’r gynulleidfa. Mae’r rhestr o’r enwogion solet, sydd wedi cytuno i bortreadu’r dieithryn o drempyn ‘Davies’, sy’n dod i amharu ar fywydau’r ddau frawd ‘Aston’ a ‘Mick,‘ yn nodedig iawn : Donald Pleasance, Warren Mitchell, Michael Gambon, Patrick Stewart a Leonard Rossiter. Pob un yn llawer hŷn, na’r dewisedig Llion Williams [...] Rhaid canmol Llion Williams eto am ymdrech deg iawn, ond wedi gweld Jonathan Pryce yn hawlio’r llwyfan o’r cychwyn hyd y diwedd, allwn i’m peidio teimlo bod angen actor llawer hŷn tebyg i Stewart Jones neu John Ogwen, i gynnal y cyfan," ychwanegodd.[3]

"Felly, mae arnai ofn, mai methiant arall oedd y cynhyrchiad hwn, sy’n cynnwys holl wendidau cyson cyfnod Cefin [Roberts] wrth y llyw [Theatr Genedlaethol Cymru]; gorddibyniaeth ar ddeunydd cyn cwmnïau drama Cymraeg, cyfieithiadau sigledig, castio anghywir, absenoldeb actorion cydnabyddedig, setiau rhy fawr ac anymarferol, a dim gweledigaeth gyffrous a mentrus."[3]

Mwy cadarnhaol oedd adolygiad Jane Wyn ar wefan BBC Cymru: "Cafwyd cymeriadu arbennig o dda a'r tri actor yn rhoi perfformiadau egnïol a chredadwy yn ystod y cynhyrchiad sydd ryw ddwy awr o hyd. [...] Roedd monolog Aston yn effeithiol iawn a pherfformiad Llion Williams o greadur pathetig - ond balch - Davies yn gofiadwy. Roedd y set yn wych: cafwyd pileri pren trwchus oedd wedi eu hamgylchynu gan focsys anniben yn pwyso ar ongl fregus yr olwg yn fframio'r llwyfan. Yn bendant, roedd y set yn adlewyrchu stad ansefydlog y cymeriadau a'r berthynas fregus rhyngddynt. [...] Roedd aelodau'r gynulleidfa yn cael eu sugno i mewn i fyd celwyddog, aml-haen y cymeriadau ac roedd y golygfeydd lle'r oedd yna drais yn real ac yn fygythiol iawn. Dyma theatr fyw ar ei gorau ac ymateb y gynulleidfa yn bositif iawn, ar y cyfan Clywais un person yn dweud ei fod yn teimlo braidd yn gysglyd yn ystod yr hanner cyntaf ond bod yr ail hanner yn electrig."[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Owen, Roger (2000). Llwyfannau Lleol : Theatr y Gegin. Gomer.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Griffiths, Paul (2010-02-12). "Paul Griffiths: Y Gofalwr". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2024-09-17.
  4. "Harold Pinter". pinterlegacies.uk. Cyrchwyd 2024-09-17.
  5. Hywyn, Gwenno (1985). Wil Sam - Cyfres Y Cewri 5. Gwasg Gwynedd.
  6. "BBC - Cymru - Cylchgrawn - Adolygiadau - Y Gofalwr: adolygiad Jane Wyn". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-17.