[go: up one dir, main page]

Elis Gwyn Jones

arlunydd

Arlunydd, athro, llenor a brawd i'r dramodydd Wil Sam Jones oedd Elis Gwyn Jones neu Elis Gwyn (19181999). Ganwyd yn Llanystumdwy.[1]

Elis Gwyn Jones
FfugenwElis Gwyn Edit this on Wikidata
GanwydElis Gwyn Jones
1918 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd, athro, llenor Edit this on Wikidata

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1936 a 1940. Bu'n athro Celf yn Ysgol Uwchradd Pwllheli am dros 30 o flynyddoedd, gan gychwyn ym 1948, ac wedi iddi uno i greu Ysgol Glan y Môr ym 1969.

Daeth i gydnabod ei ddawn fel arlunydd yn sgil gweld gwaith arlunwyr Prydeining fel Brenda Chamberlain a John Petts, a ddaeth yn gyfaill iddo gan ei berswadio i arddangos ei waith am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 1951.

Roedd yn wyneb a llais cyfarwydd ar BBC Cymru.

Bu'n aelod prysur o Theatr y Gegin yng Nghricieth yn y 1960au gan gyd-weithio efo'i frawd ac actorion amlwg eraill fel Guto Roberts, Stewart Jones a Meic Povey. Cyfieithodd a chyfarwyddodd gynhyrchiad o ddrama Harold Pinter, The Caretaker yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y ddrama yn 2011 o dan y teitl y Gofalwr. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru ers hynny.

"Mae'n debyg mai [Elis] Gwyn, fy mrawd, gododd flys sgwennu drama arna i'n gynta' un," meddai ei ddramodydd o frawd, Wil Sam Jones, "trwy sôn am y dramâu y byddai fo'n actio ynddyn nhw yng Ngholeg Bangor."[2]

"Dwi'n cofio mynd i weld drama'r coleg i Benrhyndeudraeth. Diofal Yw Dim gan John Gwilym Jones oedd hi a Gwyn yn actio hogyn gwael mewn sanatoriwm. Roedd yr hogyn ar binnau tua dechrau'r ddrama ac yn gwaelu efo pob pesychaid, ond yn raddol roedd yntau'n cynefino [...] Roedd gan Elis Gwyn ddiddordeb mewn sgwennu dramâu a'u cyfarwyddo dipyn go lew cyn i mi drio llunio dim, ond mi ddaeth y clwy heibio i minnau. Yn ystod y pumdegau cynnar, mi ddaeth Emyr Humphreys, y dramodydd a'r nofelydd yn athro i Bwllheli, i'r un ysgol â Gwyn, a thrwy fy mrawd y dois i 'nabod Emyr, sef y dyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r [Theatr Fach y] Gegin yn [19]62."[2]

Cyhoeddodd gyfrol am hanes yr arlunydd Richard Wilson ym 1973 ac Hunaniaeth Eifionydd ym 1981. Cyhoeddwyd ei ysgrifau yn 2002 yn y gyfrol Cyfaredd Eifionydd .[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Jones, Elis Gwyn, 1918–1999 | Art UK". artuk.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.
  2. 2.0 2.1 Hywyn, Gwenno (1985). Wil Sam - Cyfres Y Cewri 5. Gwasg Gwynedd.
  3. "Catalogue Search". bll01.primo.exlibrisgroup.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-18.