Rhyfel Cartref Somalia
Mae Rhyfel Cartref Somalia yn wrthdaro arfog yn Somalia a ddechreuodd ym 1991.
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref |
---|---|
Rhan o | Conflicts in the Horn of Africa |
Dechreuwyd | 26 Ionawr 1991 |
Lleoliad | Somalia |
Gwladwriaeth | Somalia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cwymp y Siad Barre (1986–1992)
golyguDechreuodd rhan gyntaf y rhyfel cartref yn sgîl gwrthryfeloedd yn erbyn cyfundrefn gormesol Siad Barre. Pan gafodd ei ddisodli ar y 26ain o Ionawr, 1991, gwelwyd gwrthchwyldro mewn ymgais iddo ddychwelyd fel arweinydd y wlad.
Gwelwyd sefyllfa o anhrefn a thrais a esblygodd i fod yn argyfwng dyngarol a sefyllfa o anarchiaeth llwyr.
Yn hwyrach ym 1991, er mwyn pellhau ei hun o'r brwydro treisgar yn y de, penderfynodd ardal Somaliland yn Somalia ddatgan ei hannibynniaeth, er na chydnabyddir ei sofreniaeth gan unrhyw genedl neu sefydliad rhynglwadol. Mae'n cynnwys ardal gogledd-orllewinol y wlad, rhwng Djibouti a'r ardal a elwir yn Puntland yn y gogledd-ddwyrain.
Ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig
golyguArweiniodd Cydraniadau 733 a 746 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig at greu UNOSOM I, yr ymgyrch gyntaf i ddarparu gofal dyngarol a cheisio cael trefn yn Somalia ar ôl ei ymddatodiad o'r llywodraeth ganolog.
Pasiwyd Cydraniad 794 Cyngor Dioglewch y CU yn unfrydol ar y 3ydd o Ragfyr, 1992, a roddodd sêl bendith i glymblaid o gadwyr heddwch i greu UNITAF o dan arweiniad yr Unol Daleithiau. Rhoddwyd y dasg iddynt o sicrhau fod cymorth dyngarol yn cael ei ddosbarthu a bod heddwch yn cael ei sefydlu yn Somalia. Cyrhaeddodd y lluoedd dyngarol y CU ym 1993, gan ddechrau eu hymgyrch dwy flynedd o gael gwared o newynu (yn bennaf yn ne'r wlad).
Dywedodd y bobl a feirniadodd ymyrraeth y CU "ychydig cyn y di-sodlwyd yr Arlywydd Mohamed Siad Barre, a oedd yn cefnogi'r UDA, ym 1991, roedd dwy ran o dair o diriogaeth y wlad wedi rhoi hawliau olew i Conoco, Amoco, Chevron a Phillips. Roedd Conoco wedi rhoi benthyg ei safle corfforaethol ym Mogadishu i'r llysgenhadaeth Americanaidd hyd yn oed, ychydig ddyddiau cyn y glaniodd y morlu, gyda llysgenhadol arbennig gweinyddiaeth yr Arlywydd Bush cyntaf yn ei ddefnyddio fel eu pencadlys dros dro." [1][2] Yr awgrym sinigaidd oedd bod yr Unol Daleithiau yn cymryd yr awenau er mwyn gallu rheoli'r hawliau olew yn hytrach nag am resymau dyngarol. Nid oes unrhyw dystiolaeth cadarn fod gan Somalia gyflenwadau olew, ond credir fod posibilrwydd o gyflenwadau ger Puntland. Hyd yn oed heddiw, mae chwilio am olew yn parhau i fod yn after dadleuol. Rhybuddiodd y Llywodraeth Ffederal Dros Dro buddsoddwyr i beidio a gwneud unrhyw gytundebau nes y deuai sefydlogrwydd yn ôl i'r wlad.[3]
Rhwng mis Mehefin a Hydref, cafwyd nifer o frwydrau gynnau ym Mogadishu rhwng bobl leol a chadwyr yr heddwch, gan arwain at farwolaethau 24 o Bacistan ac 19 o filwyr Americanaidd (gyda chyfanswm o 31 o farwolaethau Americanaidd), gyda'r mwyafrif ohonynt yn cael eu lladd ym Mrwydr Mogadishu. Lladdwyd 1000 o filwyr Somalïaidd yn y frwydr honno. Yn ddiweddarach, daeth y digwyddiad yn sail ar gyfer y llyfr a'r ffilm, "Black Hawk Down". Tynnodd y CU allan o'r ardal ar 3 Mawrth 1995, ar ôl dioddef colledion sylweddol. Nid yw trefn wedi cael ei adfer yn Somalia o hyd.
Rhannu Somalia
golyguRhwng 1998–2006 gwelwyd nifer o daleithiau yn datgan elfennau o annibyniaeth yn Somalia. Yn wahanol i'r Somaliland, camau tuag at annibyniaeth a welwyd yn hytrach na datganiadau uniongyrchol o annibyniaeth lawn.
Datganodd talaith Puntland annibyniaeth "dros dro" ym 1998, gyda'r nod o gymryd rhan mewn unrhyw gymodi Somalaidd er mwyn creu llywodraeth ganolog newydd.
Gwelwyd ail fudiad ym 1998 hefyd, pan ddatganodd talaith Jubaland eu hannibynniaeth yn y de. Sefydlwyd trydydd uned ym 1999 o dan arweiniad y Fyddin Gwrthsefyll Rahanweyn, a oedd yn debyg i sefyllfa Puntland. Ail-ddechreuodd wrthgiliad "dros dro" yn 2002. Arweiniodd hyn i annibyniaeth de-orllewin Somalia. Yn wreiddiol, sefydlodd y Fyddin Gwrthsefyll Rahanweyn weinyddiaeth annibynnol dros ardaloedd Bay a Bakool yn ne a chanol Somalia ym 1999.
Sefydlwyd pedwerydd talaith annibynnol o'r enw Galmudug yn 2006, o ganlyniad i bŵer cynyddol Undeb y Llysoedd Islamaidd.
Er y cydnabyddir Somaliland yn gyfreithiol ac yn rhyngwladol fel ardal annibynnol o fewn Gweriniaeth Somalaidd, mae ei llywodraeth eisiau annibyniaeth lawn wrth Somalia.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwelwyd ymdrechion i gymodi ond cymysg fu'r llwyddiant. Arweiniodd mudiadau fel Llywodraeth Genedlaethol Dros Dro a'r Cyngor Cymodi ac Adennill Somalaidd at sefydlu y Llywodraeth Ffederal Dros Dro yn 2004. Fodd bynnag, parhaodd trais yr arglwyddi rhyfel ac ymysg gwahanol lwythi trwy gydol y cyfnod, ac ychydig iawn o reolaeth oedd gan mudiadau'r llywodraeth dros y wlad yn ystod y cyfnod hwn.
Ymdriniaeth y wasg o'r gwrthdaro
golygu- (Saesneg) Somalia in crisis casgliad o erthyglau o'r BBC
- (Saesneg) Somalia's Struggle for Stability o The NewsHour with Jim Lehrer
- (Saesneg) The Somalia Affair o CBC
- (Saesneg) Somalia - War situation since 1991 on France 24 Adroddiad arbennig ar sianel newyddion France 24
- (Saesneg) U.S. Special Envoy Cites Widespread ‘Lack of Confidence’ in Somali Government Archifwyd 2008-12-01 yn y Peiriant Wayback o'r Council on Foreign Relations
- (Saesneg) ITN/CNN Report "War tears Somalia apart", adroddiad i'r funud am Mogadishu, Hydref, 10fed, 2007.
- (Saesneg) HRW claims US involved in secret detention of Somalis, Breaking Legal News 2007/04/01
- (Saesneg) Anarchy and Invention: How Does Somalia's Private Sector Cope without Government? Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback o World Bank
- (Saesneg) Turbulent Waters in a Maritime Black Hole Archifwyd 2009-11-30 yn y Peiriant Wayback Canolfan yr Hague o Astudiaethau Strategaethol, Mai 2008
- (Saesneg) Condemn US-Ethiopian aggression against Somalia Lalkar Ionawr 2007
- (Saesneg) Somalia Operations: Lessons Learned gan Kenneth Allard (CCRP, 1995)
- (Saesneg) From Nation-State to Stateless Nation: The Somali Experience Archifwyd 2010-01-24 yn y Peiriant Wayback gan Michael van Notten (Amsterdam, 2000)
- (Saesneg) "Preserving American Security Ties to Somalia," Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback gan Michael Johns, Heritage Foundation, Rhagfyr 26, 1989.
- (Saesneg) Newidiadau mewn agweddau Arabaidd at Wrthdaro Somalia Archifwyd 2008-01-25 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Erthygl "Separation Anxiety", yn The Walrus am afiechyd straen ôl-drawmatig ymhlith brwydrwyr Somali Archifwyd 2008-07-25 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Between Kat and Katyushas Erthygl fanwl am Hanes Cyfoes Somalia
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Kretzman, Steve (Ion/Chwef 2003). "Oil, Security, War The geopolitics of U.S. energy planning".[dolen farw] Multinational Monitor magazine.
- ↑ Fineman, Mark (Ionawr 18 1993). "Column One; The Oil Factor In Somalia;Four American Petroleum Giants Had Agreements With The African Nation Before Its Civil War Began. They Could Reap Big Rewards If Peace Is Restored."[dolen farw] Los Angeles Times: td. 1.
- ↑ "Abdillahi Yusuf’s Transitional Government And Puntland Oil Deals", Somaliland Times; adalwyd 10 Ionawr 2007