[go: up one dir, main page]

Owain Tudur

uchelwr Cymreig

Milwr, gŵr llys, a phriod dirgel Catrin o Valois, gweddw Harri V, brenin Lloegr, oedd Owain Tudur (tua 14002 Chwefror 1461). Ef oedd tadcu Harri Tudur trwy ei fab Edmwnd Tudur. O'i bedwar mab arall y pwysicaf fu Siasbar Tudur, Iarll Penfro a Dug Bedford, a ymgyrchai'n galed i gael Harri Tudur ar orsedd Lloegr. Roedd Owain Tudur yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan, canghellor Llywelyn Fawr. Roedd yn perthyn i Duduriad Môn trwy ei dad Maredudd ap Tudur, brawd Rhys ap Tudur a Goronwy ap Tudur a ymunasant ag Owain Glyn Dŵr yn ei wrthryfel yn erbyn y Saeson. Penmynydd ar Ynys Môn oedd ystâd y teulu.

Owain Tudur
Arfau Owain Tudur
Ganwydc. 1400 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1461 Edit this on Wikidata
Henffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaPenmynydd Edit this on Wikidata
TadMaredudd ap Tudur Edit this on Wikidata
MamMargaret Fychan Edit this on Wikidata
PriodCatrin o Valois Edit this on Wikidata
PlantEdmwnd Tudur, Siasbar Tudur, merch Tudor, Owen Tudor, Margaret Tudor, David Owen Edit this on Wikidata
LlinachTuduriaid Edit this on Wikidata


Llinach

golygu
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Goronwy ap Tudur Hen
(Teulu Ednyfed Fychan)
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd Fychan II
m. cyn 1340
 
 
 
Elen ferch Tomos
 
Marged ferch Tomos
 
Tudur ap Goronwy
m. 1367
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Glyn Dŵr
c. 1354 - c. 1414
 
 
Maredudd
m.1406
 
Rhys
m. 1409
 
Gwilym
m. 1413
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Tudur


Ei ddiwedd

golygu

Dienyddiwyd ef yn Henffordd ar orchymyn Edward Iarll y Mers wedi i'r Lancastriaid golli'r dydd ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461. Yn ôl un croniclydd, nid oedd yn credu y byddai Edward mor ansifil â'i ddienyddio tan y gwelodd y blocyn pren yn barod iddo.

'Yna dywedodd, "Y pen hwn a osodir ar y blocyn pren a orffwysai gynt yn arffed y frenhines Catrin", a chan gyflwyno ei feddwl a'i galon i Dduw, aeth yn llariaidd i'w dranc.'[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyfynnir yn David Fraser, Yr Amddiffynwyr (cyfieithiad Cymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Caerdydd, 1967), tud. 223.

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau hanes

golygu
  • W. Ambrose Bebb, Cyfnod y Tuduriaid (1939)
  • H.T. Evans, Wales and the Wars of the Roses (1915)

Ffuglen

golygu
  • William Pritchard, Owen Tudur (Caernarfon, 1913). Rhamant hanesyddol seiliedig ar draddodiadau lleol am Owain Tudur ar Ynys Môn.