[go: up one dir, main page]

Moel Sych

mynydd (826.7m) yn Sir Ddinbych

Yn o gopaon uchaf Mynyddoedd y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Sych. Saif ar y ffin rhwng Powys a Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ066318.

Moel Sych
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Berwyn Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr827 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.87608°N 3.38878°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0663131862 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd33.9 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCadair Berwyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Berwyn Edit this on Wikidata
Map

Lleoliad

golygu

Saif Moel Sych ar brif grib y Berwyn, gyda Llyn Lluncaws ar ei lechweddau dwyreiniol. Gellir ei ddringo o Milltir Gerrig ar y ffordd o'r Bala i Langynog neu ar hyd llwybr sy'n dechrau ger Pistyll Rhaeadr, ar ochr ddeheuol y mynydd, ac yn mynd heibio Llyn Lluncaws.

Uchder

golygu

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 795metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mae rhywfaint o amheuaeth pa un ai Moel Sych ynteu Cadair Berwyn ychydig i'r gogledd iddo yw'r mynydd uchaf yn y Berwyn. Yn ôl y map OS diweddar mae'r ddau o'r un uchder metrig, 827 medr. Yn ôl yr hen fap OS, lle roedd yr uchder yn cael ei roi mewn trodfeddi, roedd Moel Sych droedfedd yn uwch. Fodd bynnag dywedir nad yw'r garnedd ar Gadair Berwyn ar bwynt uchaf y mynydd, a'i fod mewn gwirionedd ychydig fedrau'n uwch na Moel Sych.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 827m (2713tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu